Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Oswald Chambers: Peace - Life in the SpiritSampl

Oswald Chambers: Peace - Life in the Spirit

DYDD 7 O 30

Pa rai yw'r diwrnodau sydd wedi dy hybu fwyaf yn dy wybodaeth o Dduw - diwrnodau o o heulwen a heddwch a ffyniant? Na byth! Dyddiau o adfyd, dyddiau straen, dyddiau syrpréis sydyn, y dyddiau pan oedd tŷ daearol y tabernacl hwn dan straen i'w derfyn olaf, dyna'r dyddiau pan wnest tii ddysgu ystyr yr angerdd o “Dos.” Bydd unrhyw drychineb mawr yn y byd naturiol - marwolaeth, afiechyd, profedigaeth - yn deffro dyn pan na fyddai unrhyw beth arall, ac nid yw byth yr un peth eto. Ni fyddem byth yn gwybod “trysorau tywyllwch” pe byddem bob amser yn lle diogelwch llonydd.



Er gwaethaf ein holl ymdeimlad o aflendid, er gwaethaf ein holl ruthr a diddordeb yng ngwaith y byd, ac er gwaethaf ein holl resymeg, daw ymdeimlad unplyg Duw i darfu ar ein heddwch.



Cwestiynau Myfyrdod: Beth mae helynt yn fy nysgu i am heddwch? Ydw i'n croesawu Duw i darfu yn fy mywyd neu ydw i wedi rhoi arwydd "Gad lonydd i mi" ar ddrws fy mywyd?



Dyfyniadau o The Philosophy of Sin, © Discovery House Publishers
Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Peace - Life in the Spirit

Mae Peace: Life in the Spirit yn n drysorfa ysbrydoledig o ddyfyniadau o weithiau Oswald Chambers, awdur defosiynol anwylaf y byd ac awdur My Utmost for His Highest. Tyrd o hyd i orffwys yn Nuw a chael dealltwriaeth ddyf...

More

Hoffem ddiolch i Discovery House Publishers am ddatparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.utmost.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd