Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Oswald Chambers: Peace - Life in the SpiritSampl

Oswald Chambers: Peace - Life in the Spirit

DYDD 6 O 30

Faint o ffydd, gobaith a chariad sy'n cael ei weithio ynom ni wrth geisio argyhoeddi rhywun arall? Nid ein busnes ni yw ceisio argyhoeddi pobl, hynny yw, un sy'n honni deallusrwydd ond â bywyd anysbrydol. Ysbryd Duw fydd yn argyhoeddi pan fyddwn mewn perthynas ble dŷn ni'n syml yn cyfleu gair Duw. Cŷn ni'n ecsbloetio gair Duw er mwyn ei ffitio i ryw olwg dŷn ni wedi'i gynhyrchu ein hunain. ond pan mae hi'n dod at yr heddwch dwfn a'r gorffwys yn yr Arglwydd Iesu Grist. gallwn yn hawdd brofi ble dŷn ni.



"Gorffwys yn yr Arglwydd" yw perffeithrwydd gweithgaredd mewnol. Yn ymresymiad cyffredin dyn, mae'n golygu eistedd gyda breichiau wedi'u plethu a gadael i Duw wneud popeth. Mewn gwirionedd mae'n golygu bod mor llonydd yn Nuw fel ein bod yn rhydd i wneud gwaith dyn heb ffwdan. Bydd Duw'n gweithredu hyfrytaf yw pan nad ydyn ni'n meddwl am y peth.



Cwestiynau Myfyrdod: Faint o fy aflonyddwch sy'n dod o geisio creu heddwch ar fy nhermau fy hun yn hytrach na Duw? Pa ran o'r broses creu heddwch sy'n perthyn i Dduw a pha ran i mi?



Dyfyniadau o If Thou Wilt Be Perfect, © Discovery House Publishers
Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Peace - Life in the Spirit

Mae Peace: Life in the Spirit yn n drysorfa ysbrydoledig o ddyfyniadau o weithiau Oswald Chambers, awdur defosiynol anwylaf y byd ac awdur My Utmost for His Highest. Tyrd o hyd i orffwys yn Nuw a chael dealltwriaeth ddyf...

More

Hoffem ddiolch i Discovery House Publishers am ddatparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.utmost.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd