Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Lle i Anadlu Sampl

Breathing Room

DYDD 4 O 5

Nid dim ond arian ydy arian i Dduw. Mae'n fwy na phunnoedd a cheiniogau a benthyciadau a chyllidebau. I Dduw, mae ble mae dy arian yn mynd yn dangos beth sydd ar dy galon . Sut wyt ti'n ei wario (neu fel y gwelwn heddiw, wyt ti’n barod i beidio â gwario'r cyfan ) neu ddim. Mae’n dangos i Dduw pa mor ymrwymedig wyt ti i’w ddilyn. Dyma pam mai nid dim ond y ffordd orau i reoli dy galendr ydy cael lle i anadlu, dyma'r ffordd orau o reoli dy arian hefyd.



Felly beth mae'n ei olygu i reoli dy arian yn ddoeth? Mae'n golygu na fyddi'n gwario pob ceiniog sydd gen ti. Rwyt ti'n gadael rhywfaint o le i anadlu rhwng yr arian sy'n dod i mewn a'r arian sy’n mynd allan. Mae adnod heddiw o Efengyl Luc yn esbonio pam mae rheoli dy arian fel hyn yn bwysig i Dduw. Ar ddiwedd dameg hir, mae Iesu’n gwneud yn siŵr fod ei gynulleidfa wedi deall y pwynt roedd yn ceisio’i wneud, “Does neb yn gallu gweithio i ddau feistr. . . Allwch chi ddim bod yn was i Dduw ac arian.” Ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, gallai’r bobl oedd yn gwrando ar Iesu gael eu caethiwo’n llythrennol am ddyled heb ei thalu. Heddiw, gall eich meistr fod yn gwmni cardiau credyd neu'n fenthyciwr morgais. Ond mae'r canlyniad yr un peth: mae rhywun arall yn rheoli dy fywyd.



Falle fod Duw yn dy annog i symud tŷ, ond os wyt ti dros dy ben a’th glustiau dan forgais ac yn methu gwerthu dy dŷ, dwyt ti ddim yn rhydd i'w ddilyn. Falle ei fod yn galw arnoch i fabwysiadu plentyn, ond os ydych chi wedi gwario yn lle cynilo ac yn methu fforddio'r gost, dydych chi ddim yn rhydd i'w ddilyn. Neu falle dy fod yn teimlo ei bod hi'n bryd gadael dy swydd, ond all dy deulu ddim fforddio byw heb dy gyflog am dy fod yn gwario pob ceiniog sy'n dod i mewn.



Mae sut rwyt ti'n rheoli dy arian yn bwysig i Dduw oherwydd gall llinell isaf dy gyfrif banc dy gadw rhag gallu dweud ie i'r hyn mae Duw'n dy alw i'w wneud.



Dyma pam mae angen lle i anadlu ariannol arnat ti. Mae rheoli dy arian yn ddoeth (h.y., aros allan o ddyled, rheoli dy wariant, cyfyngu ar dy safon byw) yn rhoi rhyddid i ti fod yn hael, gwasanaethu eraill, dweud iawn pan mae Duw’n dweud < em> dos . Mae'n rhoi rhyddid i ti ddilyn Duw i fywyd ar ei orau.


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Breathing Room

Wyt ti’n teimlo weithiau nad wyt ti’n gallu mwynhau unrhyw beth am dy fod yn ceisio gwneud popeth? Amldasgio dy ffordd trwy fywyd gyda'th anwyliaid. . . Rwyt ti’n effeithiol, ond rwyt ti wedi blino'n lân. Ti angen ychydi...

More

Hoffem ddiolch i North Point Ministries a Sandra Stanley am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: http://breathingroom.org

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd