Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Cynllun Brwydr Rhyfela YsbrydolSampl

Spiritual Warfare Battle Plan

DYDD 3 O 5

DYDD 3: Teimladau Ffug Ofn

Dechreuodd ofn boenydio fy enaid pan o'n i'n blentyn bach. Dw i'n cofio'n glir iawn gweld ysbryd ofn yn fy stafell wely y rhan fwyaf o nosweithiau a sgrechian am fy mam. Daeth mam i fewn gyda brws a'i sgubo i ffwrdd, gan feddwl mai dim ond fy nychymyg bywiog. Ond roedd byth a hefyd yn dod yn ôl gyda dialedd.



Fel rhiant, ar ôl dioddef sawl digwyddiad trallodus, roedd ofn yn dominyddu fy mywyd. Roedd teimladau ffug ofn yn fwy na dim ond teimladau. Roedd lleng o ysbrydion ofn yn llethu bob rhan o'm mywyd ac yn amlygu eu hunain mewn ffyrdd gwahanol.



Ofn yw dy ddialydd. Mae e'n arf meistrolgar yn nwylo'r gelyn sy'n herio addewidion Duw'n dy fywyd. Mae ofn yn dod i'th stopio rhag cynyddu yn Nuw. Ond rwyt yn gallu bod yn rhydd o'i afael cadarn yn dy feddwl. Rwyt yn gallu goroesi ofn pan mae'n ceisio ymladd yn erbyn dy enaid.



O Dad, yn enw Iesu dw i'n dod atat ti gan edifarhau am ildio i deimladau o ofn. Yn enw Iesu Grist dw i'n ceryddu ysbryd ofn sy'n gweithio i'm maglu, dwyn fy ffydd, dwyn fy heddwch, a'm poenydio gyda phryder. Dw i'n dewis ffydd, trystio, a chariad. Dw i'n ofni a thrystio'r Arglwydd yn unig. Yn enw Iesu Grist. Amen.


Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Spiritual Warfare Battle Plan

Drwy'r dysgeidiaethau pwerus hyn bydd dealltwriaeth ddyfnach yn cael ei ddatgelu ar sut i greu strategaeth i oresgyn a threchu'r gelyn a rhwystro ei gynllun i ddinistrio dy fywyd

Hoffem ddiolch i Charisma House am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://bit.ly/spiritualwarfarebattleplan

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd