Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Eliseus: Hanes Ffydd AnhygoelSampl

Elisha: A Tale Of Ridiculous Faith

DYDD 1 O 13

Mae stori Eliseus yn dechrau yn Brenhinoedd 19:14-21 pan mae Duw yn dweud wrth Elias i eneinio Eliseus fel y proffwyd i gymryd ei le. Yn y darn hwn dŷn ni'n darllen fel mae Elias yn dod o hyd i Eliseus yn aredig mewn cae gyda phâr o ychen ac ar unwaith yn taflu ei glogyn drosto fel gwahoddiad i'w ddilyn. Mae Eliseus yn ufuddhau ar unwaith ac yn llosgi ei aradr a choginio'r ychen a'u rhoi i'w ffrindiau i fwyta. Dangosodd Eliseus ymddiriedaeth anhygoel tuag at Elias. Wastraffodd e ddim amser mewn ufuddhau. Aeth e ddim i ffwrdd i feddwl am y peth. Wnaeth e ddim sgwennu rhestr o'r manteision ac anfanteision. Wnaeth e ddim chwarae'n saff. ddwedodd e iawn i alwad Duw drwy Elias.



Mae ymddiriedaeth anhygoel Eliseus yn dangos fod y gost o ddilyn Duw yn enfawr, ond mae'r gost o beidio ei ddilyn yn fwy fyth. Yn fwy na hynny roedd ymddiriedaeth Eliseus yn gyflawn. Llosgodd ei aradr, lladd ei ychen, a gadael etifeddiaeth ei deulu ar ôl. Gadawodd bopeth oedd yn gyfarwydd iddo ac yn ei garu ar ôl. Mae Eliseus yn dangos, i gamu at dy dynged mae angen camu i ffwrdd oddi wrth sicrwydd. Ydy dy ymddiriedaeth di yn Nuw yn ddi-oed a chyflawn fel Eliseus? Tybed pa fath o sicrwydd fyddai rhaid i ti ei adael ar dy ôl er mwyn cerdded at dy dynged?
Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Elisha: A Tale Of Ridiculous Faith

:Eliseus yw un o'r pobl mwyaf diddorol yng ngair Duw. Roedd- yn broffwyd gyda ffydd a gwyrthiau sy'n ymddangos yn anhygoel. Yn ystod y cynllun 13 diwrnod hwn byddi'n darllen drwy fywyd Eliseus gan ddysgu o'i esiampl sut...

More

We would like to thank Pastor Craig Groeschel and Life.Church for providing this plan. For more information, please visit: www.Life.Church

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd