Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Ymddiriedaeth, Prysurdeb a GorffwysoSampl

Trust, Hustle, And Rest

DYDD 2 O 4

Ymddiriedaeth


Drwy'r Beibl cyfan cawn ein hatgoffa mai Duw, nid ni, sy'n creu canlyniadau. Mae 1 Cronicl, pennod 29. adnod 12 yn dweud, "Oddi wrthot ti mae pob cyfoeth ac anrhydedd yn dod, achos ti sy'n rheoli'r cwbl i gyd." Mae Deuteronomium, pennod 8 adnodau 17 i 18 yn dweud, "Gwyliwch rhag i chi ddechrau meddwl, ‘Fi fy hun sydd wedi ennill y cyfoeth yma i gyd.’ Cofiwch mai'r Arglwydd eich Duw ydy'r un sy'n rhoi'r gallu yma i chi."


Mewn oes ble y gall unrhyw un ddechrau busnes llwyddiannus, bod yn awdur llwyddiannus, neu ddechrau podlediad poblogaidd, mae'n hawdd iawn meddwl mai ein prysudeb ni sy'n creu canlyniadau drwy ein hymdrechion ein hunain. Fel byddwn yn gweld yfory, mae Duw yn gorchymyn i ni weithio'n galed ac yn creu canlyniadau drwyddon ni. Ond wrth i ni ddechrau gydag unrhyw waith newydd, mae'n rhaid i ni gydnabod y ffaith ddiamheuol bod canlyniadau, yn eu hanfod, yn cael eu creu gan Dduw.


Ym Diarhebion 16, mae Solomon yn sefydlu dilyniant o ymddiriedaeth, prysurdeb a gorffwyso, ddylai fod yn rhan o unrhyw ymdrechu a wnawn fel Cristnogion. Yn adnod tri, mae'r dyn doethaf a fuodd fyw erioed yn gorchymyn, "Rho bopeth wnei di yn nwylo'r Arglwydd, a bydd dy gynlluniau'n llwyddo." Felly cyn unrhyw brysurdeb dŷn ni i roi bopeth wnawn ni i'r Arglwydd. Yn ymarferol, fel beth mae hyn yn edrych?


I ddechrau, mae'n edrych fel cadw yr adnodau dŷn ni wedi'i darllen heddiw, yn agos at ein calonnau, yna, i'n hatgoffa yn gyson mai Duw, nid ni, sy'n creu canlyniadau. Yn ail, rydym yn cyflwyno ein gwaith i'r Arglwydd pan awn ato mewn gweddi ac yn lleisio ein ymddiriedaeth ynddo. Yn olaf, yn ychwanegol at leisio ein ymddiriedaeth yn Nuw atom ni ac at Dduw, mae'n bwysig ein bod yn lleisio'r ymddiriedaeth hyn i bobl o'n cwmpas. Mewn diwylliant sy'n dathlu'r gallu i 'godi hunain ar eu traed' byddwn ni Gristnogion yn sefyll ar wahân yn y byd pan fyddwn yn cydnabod yn benodol mai Duw, nid ni, sy'n gyfrifol am creu canlyniadau drwy ein gwaith.


Ond, fel gwelwn yfory, ymddiriedaeth yw un rhan o'r pos. Er mwyn bod yn offerynnau effeithiol yn nwylo'r un sy'n ein galw, mae'n rhaid i ni fod yn brysur iawn yn ein gwaith.


Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Trust, Hustle, And Rest

Mae'r Beibl yn gorchymyn i ni weithio'n galed, ond mae'n dweud wrthon ni hefyd mai Duw - nid ni - sy'n creu canlyniadau drwy ein gwaith. Fel bydd y cynllun pedwar diwrnod hwn yn dangos mae'n rhaid i'r Cristion proffesiyn...

More

Hoffem ddiolch i Carol McLeod am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.jordanraynor.com/trust/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd