Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Maddau i'r rheiny sy'n ein brifoSampl

Forgiving Those Who Wound Us

DYDD 7 O 7

Dileu Atgofion o Gamweddau

Pob dydd dŷn ni’n storio atgofion er mwyn eu dwyn i gof yn y dyfodol - gobeithio er mwyn ein llawenydd, Ond weithiau mae pethau drwg yn digwydd sy’n gadael effaith barhaol ar ein bywydau. Weithiau mae anableddau’n digwydd o ganlyniad i ddewisiadau gwael rhywun arall. Bydd gyrrwr meddw yn cerdded i ffwrdd o ddamwain, tra’n gadael ei gyd-deithiwr ag effaith parhaol corfforol neu feddyliol. Gall rhywun frifo eraill yn ddrwg o ganlyniad i weithredoedd diofal neu hunanol. Sut ar wyneb daear mae disgwyl i ni faddau camweddau o’r fath?


Mae maddeuant yn cynnwys gollwng gafael bwriadol o weithredoedd blin a phechodau eraill. Rwyt ti’n dewis anghofio beiau eraill. Mae Salm 103, adnod 8 i 12 yn dangos maddeuant bwriadol Duw. “Dydy e ddim yn ceryddu pobl yn ddiddiwedd” (er bod hawl ganddo) a “Mor bell ac ydy'r dwyrain o'r gorllewin, mae wedi symud y gosb am i ni wrthryfela.” Mae hwn yn bellter tragwyddol; dydy’r ddau begwn byth yn cwrdd. Mae Duw, o’i ewyllys, yn anghofio ein pechodau a byth yn eu dwyn i gof! Sut allwn ni arfer maddeuant o’r math yma? Dim ond y cariad ddaw gan yr Ysbryd Glân sy’n gallu trawsnewid ein calonnau’n ddigonol i “anghofio pan mae rhywun wedi gwneud cam” (1 Corinthiaid, pennod 13, adnod 5). Mae'r math hwn o faddeuant yn cael ei wneud gan ras Duw yn ein calonnau ac yn cael ei ysgogi gan wir gariad at eraill.


Mae’n anodd iawn maddau i eraill pan mai dim ond ein dioddefaint a’n hanawsterau ni ein hunain sydd mewn ffocws. Ystyria, yn lle, sut roedd Duw’n delio gyda throseddau: ““Ydy, mae Duw wedi caru'r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol (Ioan, pennod 3, adnod 16). Wnaeth cariad Duw tuag atom ni achosi iddo aberthu ei Fab er mwyn i ni gael maddeuant am ein pechodau. Ydyn ni i fod i fadau fel yna? Ydym! Ond nid yn ein nerth ein hunain! Yn naturiol, dŷn ni’n siŵr o gofio digwyddiadau yn ein bywyd. Mae yna rai pethau na allwn ni eu “hanghofio’n” llwyr. Ond ydyn ni’n dwyn i gof camweddau eraill? Ydyn ni’n cofio neu ail-fyw'r manylion negyddol bob tro dŷn ni’n gweld y person hwnnw?


Dydy maddeuant duwiol ddim yn dileu ein hatgofion, ond mae’n caniatáu i ni ddileu’r camweddau a byw mewn perthnasoedd sydd wedi’u hadfer. Gydag amser, a thrwy Ysbryd Duw, byddwn yn ffeindio bod cariad wedi cymryd lle meddyliau negyddol am, a theimladau tuag at, y rheiny sydd wedi ein brifo.


Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Forgiving Those Who Wound Us

Pa un ai ydyn ni'n dioddef yn emosiynol neu'n dioddef anafiadau corfforol, maddeuant yw conglfaen y bywyd Cristnogol. Cafodd Iesu Grist bob math o brofiadau anheg ac anghyfiawn hyd at farwolaeth. Ac eto'n ei awr olaf fe ...

More

Hoffem ddiolch i Joni a'i ffrindiau, International and Tyndale House Publishers, crewyr Beyond Suffering Bible am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i www.beyondsufferingbible.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd