Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Beibl I BlantSampl

Beibl I Blant

DYDD 1 O 8




Pwy wnaeth ein creu ni? Mae’r Beibl, Gair Duw, yn dweud sut gychwynnodd y ddynoliaeth. Amser maith yn ôl, creodd Duw’r dyn cyntaf a’i alw’n Adda.

Defnyddiodd bridd y ddaear i greu Adda. Pan chwythodd Duw anadl bywyd i Adda, daeth yn berson byw. Cafodd ei hun mewn gardd brydferth o’r enw Eden.

Cyn creu Adda, creodd Duw fyd hardd yn llawn o bethau rhyfeddol. Yn eu tro creodd fryniau a dyffrynnoedd, blodau persawrus a choed tal, adar gyda phlu lliwgar a gwenynod yn suo, morfilod yn ymdrochi a malwod llithrig. A dweud y gwir, creodd Duw bopeth sy’n bod – popeth.

Ar y cychwyn cyntaf, cyn i Dduw greu unrhyw beth, doedd dim yn bodoli, dim ond Duw. Dim pobl, dim llefydd, dim pethau. Dim. Dim golau a dim tywyllwch. Dim lan a dim lawr. Dim ddoe a dim fory. Dim ond Duw oedd yn bod, Duw sydd heb ddechreuad. Yna dyma Duw yn gweithredu!

Ar y cychwyn cyntaf creodd Duw’r bydysawd a'r ddaear.

Roedd y ddaear yn anhrefn gwag, ac roedd hi'n hollol dywyll dros y dŵr dwfn. Yna dwedodd Duw, “Dw i eisiau golau!”

A daeth golau i fod. Galwodd Duw’r goleuni yn Ddydd a’r tywyllwch yn Nos. Ac roedd nos a dydd ar y diwrnod cyntaf.

Ar yr ail ddiwrnod, rhoddodd Duw drefn ar ddŵr y cefnforoedd, y moroedd a’r llynnoedd. Ar y trydydd dydd, dywedodd Duw, “Dw i eisiau tir sych”. Dyna ddigwyddodd.

Gorchmynnodd Duw hefyd i’r glaswellt a’r blodau a’r llwyni a’r coed ymddangos. A dyna ddigwyddodd. Ac roedd nos a dydd y trydydd diwrnod.

Yna creodd Duw’r haul, a’r lleuad, a chymaint o sêr doedd neb yn gallu eu rhifo. Ac roedd nos a dydd y pedwerydd diwrnod.

Creaduriaid y môr, y pysgod a’r adar oedd nesaf ar restr Duw. Ar y pumed dydd creodd bysgod cleddyf mawr a phenwaig bach, estrys gyda choesau hir ac adar y si bach hapus. Creodd Duw bob math o aderyn i fwynhau’r tir a’r môr a’r awyr. Ac roedd nos a dydd y pumed diwrnod.

Ar ôl hynny, siaradodd Duw eto. Dywedodd “Dw i eisiau i greaduriaid byw o bob math lenwi'r ddaear.. ” Daeth pob math o anifail, a phryfaid ac ymlusgiaid gwahanol i fod. Roedd yna eliffantod yn gwneud i’r ddaear grynu, ac afancod prysur. Mwncïod direidus a chrocodeilod trwsgl. Mwydod aflonydd a gwiwerod rhesog digywilydd. Jiraffod hefo coesau hir a chathod yn canu grwndi. Creodd Duw bob math o anifeiliaid y diwrnod hwnnw.

Ac roedd nos a dydd y chweched dydd.

Fe wnaeth Duw rywbeth arall ar y chweched dydd – rhywbeth arbennig iawn. Roedd popeth nawr yn barod ar gyfer Pobl. Roedd yna fwyd yn y caeau ac anifeiliaid i’w gwasanaethu. A dywedodd Duw “Gadewch i ni wneud pobl yn ddelw ohonon ni'n hunain, i fod yn feistri sy'n gofalu am bopeth”. FELLY DYMA DUW YN CREU POBL AR EI DDELW EI HUN; YN DDELW OHONO'I HUN Y CREODD NHW.

Dywedodd Duw wrth Adda, “Cei di fwyta unrhyw beth o’r ardd. Ond paid bwyta ffrwyth y goeden sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth — da a drwg. Pan wnei di hynny byddi'n siŵr o farw.”

A dywedodd yr ARGLWYDD Dduw, “Dydy e ddim yn beth da i'r dyn fod ar ei ben ei hun. Dw i'n mynd i wneud cymar iddo i'w gynnal.” Daeth Duw â’r holl adar a’r creaduriaid at Adda. Rhoddodd Adda enw iddyn nhw i gyd. Rhaid ei fod yn glyfar iawn i wneud hynny. Ond doedd dim cymar addas i Adda ymhlith yr holl anifeiliaid a’r creaduriaid.

Dyma'r ARGLWYDD Dduw yn gwneud i'r dyn gysgu'n drwm. Cymerodd ddarn o ochr corff y dyn. Wedyn dyma'r ARGLWYDD Dduw yn ffurfio Dynes allan o'r darn oedd wedi ei gymryd o'r dyn. Roedd y ddynes a greodd Duw yn berffaith fel cymar i Adda.

Creodd Duw bopeth mewn chwe diwrnod. Yna bendithiodd Duw y seithfed dydd a’i wneud yn ddiwrnod o orffwys. Yng Ngardd Eden roedd Adda ac Efa ei wraig yn berffaith hapus wrth ufuddhau i Dduw.

Roedd Duw yn ARGLWYDD iddyn nhw, roedd yn rhoi popeth roedden nhw ei angen iddyn nhw ac roedd yn Ffrind iddyn nhw.

Y Diwedd

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Beibl I Blant

Sut y dechreuodd i gyd? O ble daethom ni? Pam mae cymaint o dristwch yn y byd? A oes unrhyw obaith? Oes bywyd ar ôl marwolaeth? Dod o hyd i'r atebion wrth i chi ddarllen hanes cywir y byd hwn.

Hoffem ddiolch i Bible for Children, Inc. am ddarparu’r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://bibleforchildren.org/languages/welsh/stories.php

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd