Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gelynion y GalonSampl

Enemies Of The Heart

DYDD 5 O 5

Andy Stanley: Gelynion y Galon


Dydd Defosiynol


"Mynd â'th dymuniadau at Dduw"


Y Gair: Iago, pennod 4, adnodau 1 i 3 -


Mae pob un o elynion y galon wedi'u hegnïo gan y syniad fod rywun â ryw ddyled. Mae euogrwydd yn dweud "Mae arna i, i ti." Mae dicter wedi'i danio gan y syniad o fod yn ddyledus i mi. Mae trachwant yn fyw iawn gan y ragdybiaeth fod hawl gen i fy hun am rywbeth. Dydy'r bedwaredd galon yn ddim gwahanol. Mae cenfigen yn dweud, "Mae gan Dduw ddyled i mi."


Pan dŷn ni'n meddwl am genfigen neu eiddigedd. dŷn ni'n meddwl yn syth am bethau sydd gan eraill ond ddim gen ni - pryd a gwedd, sgiliau, cyfleon, iechyd,taldra, etifeddiaeth, ac ati. Dŷn ni'n meddwl fod ein problem gyda'r person sy'n eiddo'r hyn nad yw gynnon ni. Ond, mewn gwirionedd, fe allai Duw ddatrys hynny i ni. Beth bynnag roddodd e i dy gymydog, fe allai fod wedi rhoi i ti hefyd. Dyna pam y gallet fod yn teimlo o'th fewn bod arno fe ddyled i ti.


Gall eiddigedd dy frawychu a difrodi dy fywyd a'th berthynas ag eraill. Y newydd da ydy, mae gan yr anghenfil hwn wendid. Ac mae'n rywbeth allai fod yn annisgwyl i ti: stopia chwennychu beth sydd gan eraill, a dechreua ofyn i Dduw am beth mae e'n wybod sy'n dda ar dy gyfer.


Fel mae Iago yn dweud, canlyniad ein brwydrau allanol yw brwydr fewnol saydd wedi gweithio'i ffordd i'r wyneb. Dŷn ni eisiau rywbeth ond dydy e ddim gynnon ni, felly dŷn ni'n dechrau ymladd ag eraill. Mae'r anghenion hyn mae Iago yn cyfeirio atyn nhw yn cynnwys, ein awch am stwff, arian, cydnabyddiaeth, llwyddiant, cynnydd, agosatrwydd, rhyw, hwyl, perthynas, partneriaeth.


Felly, beth dŷn ni'n ei wneud gyda dymuniadau ac archwaethau na ellir fyth eu digoni? Mae Iago yn dweud ein bod i fynd ¤ nhw at yr un greodd nhw yn y lle cyntaf. Mewn geiriau eraill, mae Iago yn rhoi caniatâd i ni arllwys ein calon allan, mewn sgwrs di-flewyn ar dafod gyda ein Creawdwr.


Mae pob consyrn sydd gen ti, bach neu fawr, o bwys i'r Tad gan dy fo di o bwys ganddo. Pa un ai yw'n ymwneud â dy fywyd carwriaethol, dy yrfa, dy briodas, dy rieni, dy blant, dy arian, dy addysg, dy ymarweddiad, tyrd ag e at y Tad. A chadwa dod ag e ato nes y byddin cael yr heddwch i godi oddi ar dy liniau a wynebu'r diwrnod, yn hyderus o wybod ei fod e'n gofalu amdanat.


Gad i mi dy sicrhau byd dy galon wastad yn agos at ei galon.


Beth mae dy galon yn awchu amdano? Treulia amser mewn amser rhydd, di-atal, yn sgwrsio gyda Duw am beth rwy ti'n teimlo sydd arnat ei eisiau. Gofynna iddo dy fendithio yn y ffordd sydd orau ar dy gyfer - ac amlygu ei gariad i ti ar hyd y ffordd.


Dŷn ni'n gobeithio dy fod wedi mwynhau defosiwn diwrnod Andy ar "Gelynion y Galon". Dos yn ddyfnach a dod o hyd i iachâd ac adnewyddiad tymor hir drwy gael gafael ar lyfr Andy, "Enemies of the Heart" yn dy siop lyfrau leol.



Ysgrythur

Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Enemies Of The Heart

Yn union fel y gall calon fod yn gorfforol wael, gall calon sy'n wael yn emosiynol ac ysbrydol ddifrodi ti a dy berthynas ag eraill. Am y pum diwrnod nesaf, gad i Andy Stanley edrych arnat ti yn fewnol am bedwar gelyn cy...

More

Hoffem ddiolch i Andy Stanley a Multnomah am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: bit.ly/2gNB92i

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd