Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Siarad â Duw drwy weddiSampl

Talking With God In Prayer

DYDD 1 O 4

MAE DUW YN HIRAETHU AMDANAT TI





SIARAD Â DUW


Diolcha i Dduw am yr holl ffyrdd mae'n dy garu a gofalu amdanat. Gofyn iddo ddangos i ti gymaint mae e am i ti siarad ag e bob dydd.





PLYMIO I MEWN


Gosoda res o wydrau bach wrth sinc y gegin. Llenwa nhw un wrth un. Trafoda sut y gallet lenwi bob un cynhwysydd yn y tŷ a byddai dŵr yn dal i ddod allan or tap. Yn yr un modd dyw hiraeth Duw amdanat byth yn dod i ben.





MYND YN DDYFNACH


Mae duw ar gael i ti drwy;r amser. Yn union fel rwyt yn gallu llenwi gwydr gyda dŵr drwy'n syml droi'r tap ymlaen gelli fwynhau presenoldeb Duw drwy fynd ato mewn gweddi. Darllena Eseia : "Ond mae'r ARGLWYDD wir eisiau bod yn garedig atoch chi bydd yn siŵr o godi i faddau i chi.

Achos mae'r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn ac mae'r rhai sy'n disgwyl amdano yn cael bendith fawr!" Mae Duw am i ti agosáu ato, a'th lenwi â'i gariad a thangnefedd oherwydd mae e eisiau'r gorau ar dy gyfer. Er fod Duw yn gweithio ar dy ran mae e eisiau i ti ymateb iddo, gan ddangos parodrwydd i rannu'th fywyd ag e. Un ffordd o wneud hyn yw i ti siarad ag e bob dydd.





SIARAD Â'CH GILYDD


- Â phwy wyt ti'n mwynhau siarad, a beth sy'n gwneud y person yma'n ffefryn? Sonia am amser roeddet ti'n eiddgar i siarad â'r person yma. Pam oeddet ti'n eiddgar i siarad â'r person yma?


Pam fyddai Duw'n hiraethu i fod yn rasol i ti?

Ysgrythur

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Talking With God In Prayer

Gall bywyd teuluol fod yn brysur a dŷn ni'n aml ddim yn cymryd yr amser i weddïo - heb sôn am helpu ein plant i feithrin yr arfer o gynnwys Duw yn eu diwrnod. Yn y cynllun hwn byddwn yn gweld gymaint mae Duw eisiau clywe...

More

Hoffem ddiolch i Focus on the Family am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth ewch i www.FocusontheFamily.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd