Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Heb benderfynu?Sampl

Undecided?

DYDD 1 O 7

"Signalau Tawel" Y funud hon mae yna donau anweledig yn troelli o gwmpas dy ben. Mae sioeau teledu, rhaglenni radio, sgyrsiau ffôn a chyfesurau GPS yn peledu'r byd yn ddi-ddiwedd o'th gwmpas. Mae'r rhan fwyaf yn diflannu i'r ddaear neu'n teithio'n hollol ddisylw i ddyfnderoedd y gofod. Ynghanol yr holl sŵn rwyt yn gallu eistedd allan yn yr awyr agored gan fwynhau noson dawel, yn hollol anymwybodol o'r tanio di-ddiwedd. Tase ti'n troi'r radio ymlaen, teledu, neu ffôn symudol, mae'r tawelwch yn taro deuddeg. Un o'r signalau hynny sy'n troelli o gwmpas dy ben y funud hon yw Duw. Dyw e ddim yn electronig. Dyw e ddim yn cael ei fesur gan beiriannau, na'ir dderbyn gan unrhyw ddyfais. Hyd at y pwynt hwn, efallai nad wyt wedi adnabod llais Duw, ond mae e yna. Stori ryfedd welir yn llyfr Job ynghanol y Beibl am ddyn aeth yn flin gyda Duw pan ddechreuodd ei fywyd chwalu. Fe wnaeth Job gyhuddo Duw o beidio siarad, ond fe wnaeth Elihw, ffrind Job gywiro safbwynt Job. "Pam wyt ti'n dadlau yn ei erbyn? Oes rhaid iddo ateb pob cwestiwn? Mae Duw yn siarad mewn un ffordd un tro, ac mewn ffordd wahanol dro arall - ond er hynny dydy pobl ddim yn deall." (Job 33: 13-14 Beibl.net) Fe wnaeth Elihw sylw doeth. Mae Duw yn siarad drwy'r adeg ond dŷn ni ddim yn gwrando bob amser. Mae e'n siarad yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Mae e'n siarad drwy freuddwydion a thrwy bobl. Mae e'n siarad drwy boen a thrwy llawenydd. Mae e'n siarad drwy fywyd a thrwy marwolaeth. Mae e'n siarad bob amser a heddiw mae e'n siarad efo ti. Mae e'n hawdd iawn gwrando arno. Y cwbl sydd rhaid i ti ei wneud yw troi ymlaen yr unig dderbynnydd all ddarllen y signal - dy ysbryd. Pan gafodd Iesu ei feirniadu gan yr arweinwyr crefyddol am dorri eu rheolau sanctaidd, fe wnaeth e ymateb fel hyn: Credwch chi fi, mae'r amser yn dod, ac mae yma'n barod, pan fydd y rhai sy'n farw yn clywed llais Mab Duw a bydd pob un sy'n gwrando ar beth mae'n ei ddweud yn byw. (Ioan 5:25 Beibl.net) Cymer olwg ar dy fywyd. Fedri di adnabod unrhyw sefyllfa ble mae Duw, efallai, yn ei ddefnyddio i dynnu dy sylw? Elli di feddwl am bobl efallai fod Duw wedi'i gosod yn dy fywyd i'th helpu i glywed ei lais? Darllena drwy'r darnau yn Job ac Ioan a cheisia adnabod yr holl ffyrdd mae Duw wedi bod yn siarad ond nad wyt wedi talu llawer o sylw iddyn nhw cyn hyn. Gweddi O Dduw, wnei di wneud dy lais yn amlwg i mi, uwchben y sŵn yn fy mywyd prysur? Helpa fii i adnabod y pobl a'r digwyddiadau rwyt yn eu defnyddio i ddenu fy sylw. Agor fy nghalon a'm meddwl i ddeall y darnau hyn o'r Beibl.
Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Undecided?

Dal heb wneud penderfyniad am Dduw? Ddim yn siŵr beth ti'n ei gredu? Treulia'r saith niwrnod nesaf yn chwilio'r Beibl a gweld beth fydd duw yn datgelu i ti am ei natur. Dyma dy gyfle i ddarllen y stori dros ti dy hun i w...

More

Hoffem ddiolch i You Version am ddarparu'r cynllun hwn. am fwy o wybodaeth dos i www.youversion.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd