Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Bydd lonydd: Canllaw Syml i Amseroedd TawelSampl

Be Still: A Simple Guide To Quiet Times

DYDD 1 O 5

Bydd lonydd: Ble mae dy Ardd?



Yn y darn heddiw, dŷn ni’n darllen am fwriad creu gwreiddiol Duw: un lle'r oedd yn cerdded ac yn siarad ag Adda ac Efa yn rheolaidd.



Mae’r ymadrodd rhyfeddol hwn yn Salmau 46:10 sy’n dweud ‘Stopiwch! Mae'n bryd i chi ddeall mai Duw ydw i!’



Mae’n wahoddiad i lonyddwch a gwybodaeth o Dduw sydd wedi atseinio drwy gydol hanes.



Y rhan fwyaf o foreau dw i'n codi, yn gwneud paned o goffi i mi fy hun, estyn fy nyddiadur, Beibl a llyfrau ac yn eistedd yn yr un gadair yng nghornel fy ystafell fyw. Dw i'n setlo i lawr ac yn cymryd yr amser i osod fy hun mewn gofod sy'n ffafriol i ddod ar draws Duw.



Dw i’n credu’n llwyr mai gweddi - ymroddiad i berthynas, cyfarfyddiad, a sgwrs â Duw - yw gwraidd popeth a wnawn. Rhoddir ystyr i fywydau digyfeiriad mewn perthynas â Duw. Tyfir y berthynas hon mewn cymuned a thrwy fod yn ddisgybl, ond hefyd trwy sefydlu a datblygu ein bywydau defosiynol personol.



Yn union fel yr oedd Adda ac Efa yn cerdded gyda Duw bob dydd, gallwn dyfu yn ein perthynas ag e trwy arfer amser tawel: i wrando’n benodol ar Dduw trwy weddi, darllen y Beibl, a myfyrio. Amser tawel yw pan dŷn ni, nid yn unig yn siarad â Duw, ond yn gofyn i Dduw siarad â ni.



Mae amseroedd tawel yn ymwneud â dod ar draws Duw. Ystyr y gair cyfarfyddiad hwn yw ‘cwrdd â’.



Mae bod yn fwriadol yn allweddol. Dechreuodd y Beibl gyda chyfarfyddiad bwriadol rheolaidd mewn lle ar amser penodol.



Fel dŷn ni wedi darllen heddiw, dechreuodd man gwreiddiol y ddynoliaeth ar gyfer cyfarfyddiad â Duw mewn gardd.



Cymerodd Duw daith gerdded ddyddiol er pleser gydag Adda ac Efa! Hwn oedd y bwriad creu gwreiddiol.



Darlunia nhw'n stopio, yn aros ac yn gwrando, yn llonyddu yn paratoi i gerdded a siarad â Duw. Dyma sut olwg oedd ar yr amser tawel gwreiddiol.



Mae angen i ni yn fwriadol greu gofod yn ein bywydau ar gyfer cyfarfyddiadau rheolaidd, lle i gerdded, siarad a gwrando gyda Duw.



Ble mae dy ardd?



Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Be Still: A Simple Guide To Quiet Times

Bydd lonydd. I rai, mae'r ddau air syml hyn yn wahoddiad i'w groesawu i arafu. I eraill, maen nhw'n teimlo'n amhosib, allan o gyrraedd yn ein byd cynyddol swnllyd, neu'n rhy anodd i'w gynnal. Mae Brian Heasley yn dangos ...

More

Hoffem ddiolch i 24-7 Prayer am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.amazon.com/Be-Still-Simple-Guide-Quiet/dp/0281086338/ref=sr_1_1?dchild=1&keywords=be+still+brian&qid=1633102665&sr=8-1

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd