Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Llwybr Duw i LwyddiantSampl

God’s Path to Success

DYDD 2 O 3

Yn y byd ysbrydol, ceir llwyddiant wrth gyflawni pwrpas Duw ar gyfer dy fywyd. Dyna’r diffiniad Beiblaidd o lwyddiant. Yn ein diwylliant heddiw, mae yna nifer o ddisgrifiadau cyfeiliornus o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn llwyddiannus. Mae rhai pobl yn tybio bod llwyddiant yn gysylltiedig â faint o arian sydd gen ti. Mae eraill yn ei seilio ar ba mor uchel i fyny'r ysgol yrfa rwyt ti wedi'i dringo. Y dyddiau hyn efallai y caiff ei ddiffinio gan faint o ddilynwyr sydd gen ti ar gyfryngau cymdeithasol. Ond y broblem gyda’r holl ragdybiaethau hyn yw nad ydyn nhw’n seiliedig ar safon llwyddiant Duw.



Rhoddodd Iesu i ni ddiffiniad llwyddiant pan ddywedodd, “Dw i wedi dy anrhydeddu di ar y ddaear drwy orffen y gwaith roist ti i mi” (Ioan 17:4).



Dywedodd Paul yr un peth mewn ffordd wahanol pan ysgrifennodd y geiriau hyn: “Dw i wedi ymladd yn galed, dw i wedi rhedeg y ras i'r pen, a dw i wedi aros yn ffyddlon (2 Timotheus 4:7).



Yn wir, dywedodd Duw wrth Josua fod ei lwyddiant wedi’i seilio’n llwyr ar ei fyfyrdod gofalus ar Air Duw ynghyd â chysoni ei benderfyniadau a’i weithredoedd oddi tano (Josua 1:8). Mae llwyddiant yn golygu cyflawni'r hyn y mae Duw wedi'ch galw ti i'w wneud.



Beth yw dy ddiffiniad personol o lwyddiant?



Sut mae’n cymharu â diffiniad Duw?


Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

God’s Path to Success

Mae pawb yn chwilio am lwyddiant, ond does fawr ddim yn dod o hyd iddo oherwydd mae’r maen nhw’n ei ddilyn yw dealltwriaeth ffug o'r hyn y mae'n ei olygu i fyw bywyd llwyddiannus. I ddod o hyd i lwyddiant go iawn mae ang...

More

Hoffem ddiolch i The Urban Alternative (Tony Evans) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://tonyevans.org/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd