Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gwneud lle ar gyfer yr hyn sy'n bwysig: 5 Arferiad Ysbrydol ar gyfer y GrawysSampl

Make Space for What Matters: 5 Spiritual Habits for Lent

DYDD 1 O 7

Pam y Grawys?


Oeda am funud ac edrych tu allan. Beth wyt ti'n weld? Beth sy'n gwneud i ti wenu?



Beth bynnag oedd dy ateb, mae beth bynnag welaist ti wastad wedi bod yna - mae ond yn disgwyl i ti oedi a thalu sylw iddo.



Yn sylfaenol, dyna yw pwrpas Y Grawys: i greu lle ynghanol cyfrifoldebau bywyd i werthfawrogi beth sydd wedi bod yna erioed - presenoldeb Duw.



Cyfnod o 40 diwrnod yw'r Grawys sy'n arwain i fyny at Sul yr Atgyfodiad. Ar sail 40 diwrnod Iesu yn yr anialwch mae'r Grawys yn offeryn all eich helpu i ddod yn fwy ymwybodol o lais Duw a'i gariad aberthol. Er nad oes sôn am y Grawys ei hun un u Beibl, cafodd ei drafod yng Nghyngor y Nicea yn 325 oed Crist, gan ei fod yn darparu rhythm o fyfyrio ac edifeirwch i Gristnogion wrth i'r Gwanwyn ddod - tymor gysylltir yn aml a dechreuadau newydd.



Nid gwella dy fywyd yw pwrpas y Grawys, ond canol i dy fywyd ar yr hyn sydd o bwys, yr un a'th wnaeth ac a fu farw drosot ti. Ac un o''r ffyrdd o wneud hyn yw ymarfer arferion ysbrydol.



Felly, wrth i ti baratoi ar gyfer Sul yr Atgyfodiad, gad i ni edrych ar rai o'r arferion ysbrydol y gelli di eu hymarfer yn ystod y tymor hwn, a'u gwneud yn rhan o dy fywyd dyddiol yn ystod y blynyddoedd i ddod.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Make Space for What Matters: 5 Spiritual Habits for Lent

Y Grawys: Tymor o 40 diwrnod o fyfyrdod ac edifeirwch. Mae’n syniad da, ond sut olwg sydd ar ymarfer y Garawys mewn gwirionedd? Dros y 7 diwrnod byddi'n darganfod pum arferiad ysbrydol y gelli di ddechrau eu gwneud yn ys...

More

Cafodd y Cynllun Beibl gwreiddiol ei greu a'i ddarparu gan YouVersion.

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd