Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Rwyt ti yn cael dy GaruSampl

You Are Loved

DYDD 1 O 4

Mae Cariad o Bwys


Carwch eich gilydd fel dw i wedi'ch caru chi. (Ioan 15:12)



Pan fydd pobl yn pendroni dros ddirgelion bywyd, un o'r rhai dyfnaf yw'r cwestiwn pam fod unrhyw beth yn bodoli o gwbl. Pam fod yna rhywbeth yn hytrach na dim byd? Ateb un gair y Beibl i’r cwestiwn hwnnw yw cariad. Cariad Duw oedd y pŵer wnaeth alw i’r bydysawd ddod i fodolaeth. Cariad Duw yw’r rheswm pam gest ti a fi ein creu a pham dŷn ni dal yn fyw, ac anadl ynom, y funud hon. Cariad yw hanfod Duw, ac mae e eisiau iddo fod yn hanfod pobl hefyd. Cariad yw’r marc uchaf o fywyd dynol dilys.



Roedd y geiriau siaradodd Iesu i’w ddisgyblion yn yr ystafell fawr fyny grisiau ar noson olaf ei fywyd yn rhyw fath o ewyllys ar gyfer ei deulu a’i ddilynwyr. Roedd ei fyr a syml, neges yn fyr a syml, “Carwch eich gilydd fel dw i wedi'ch caru chi.”



Un o’r pethau mae’r Beibl yn ei wneud yn hollol glir ydy mai cariad tebyg i Grist yw’r mesur go iawn o fywyd llwyddiannus. Mae pob rhodd a galluoedd eraill yn annilys, mae pob ffurf arall ar lwyddiant yn ddiddim ble nad oes cariad. Fel y sylwodd y diwinydd mawr Karl Barth, mae holl lwyddiannau dy fywyd, heb gariad, fel rhes o ffigyrau sero heb rif positif o'u blaen: ni waeth pa mor hir yw'r rhestr, mae’r ateb dal yn dod i ddim.



Felly, beth sut olwg sydd ar gariad go iawn? Mae’n edrych fel Iesu wrth gwrs.



Wrth iti weddïo, gofynna i Dduw dy helpu i garu mwy fel e, bob dydd.


Ysgrythur

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

You Are Loved

Mae Duw’n dy garu. Pwy bynnag wyt ti, ble bynnag wyt ti yn dy fywyd, mae Duw’n dy garu! Yn y mis hwn pan dŷn ni’n dathlu cariad, paid anghofio fod cariad Duw tuag atat yn fwy nag unrhyw gariad arall. Yn y gyfres pedwar d...

More

Hoffem ddiolch i Words of Hope am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.woh.org/youversion

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd