Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dilyn Iesu ein CanolwrSampl

Following Jesus Our Mediator

DYDD 2 O 7

Iesu a’r Tlawd



Mae sawl ffurf ar dlodi, yn ysbrydol yn ogystal â materol. Wnaeth Iesu estyn allan at rai oedd mewn unrhyw fath o dlodi.



Allan o’r Africa Study Bible nodyn gweithredu “Poverty of Spirit”:


Casglodd nifer fawr o dlodion at ei gilydd i wrando ar Iesu yn pregethu ar y mynydd. Roedden nhw’n gwybod bod angen help dyddiol arnyn nhw i fyw. Roedden nhw’n talu sylw i Iesu ac addawodd iddyn nhw’n Deyrnas Dduw, a oedd yn cynrychioli llawenydd, iachâd, a bendith llawn Duw. Er mwyn ei dderbyn roedd yn rhaid iddyn nhw gydnabod eu hangen amdano. Defnyddiodd Iesu’r tlawd i ddangos angen pawb i fynd at Dduw ar ôl adnabod eu tlodi eu hunain.



Yn aml mae gan bobl sydd ag anhwylder corfforol forâl isel ac ychydig iawn o gymhelliant i wneud unrhyw beth. Maen nhw’n teimlo'n ddigalon a falle na fyddan nhw'n teimlo bod unrhyw reswm i barhau i fyw. Yn waeth byth, mae’r bobl hyn yn teimlo nad ydyn nhw’n gallu gosod eu gobaith mewn unrhyw system wleidyddol neu gymdeithasol. Mae'r byd a'i anghyfiawnderau wedi torri eu hysbryd trwy dlodi. Yn yr eiliadau hynny o anobaith, dim ond Teyrnas Dduw sy’n rhoi gobaith am adferiad.



Dydy Teyrnas Dduw ddim i'r tlawd na'r cyfoethog, ond i bawb sy'n sylweddoli eu hangen amdano. Os dŷn ni’n dlawd, ddylen ni ddim dirmygu ein profiad uniongyrchol o dlodi pan fydd yn caniatáu i ni ddeall cymaint y mae gwir angen Duw arnom. Y ddealltwriaeth honno o'n hangen ein hunain sy'n caniatáu i ni etifeddu Teyrnas Nefoedd yn eiddo i ni’n hunain.



Myfyrio neu Drafod


Ym mha ffordd wyt ti wedi profi tlodi neu anghyfiawnder yn dy fywyd? Sut mae'r profiadau hyn wedi effeithio ar dy fywyd a'th ffordd o fyw?



Pam mae'n arwyddocaol nad yw Teyrnas Dduw ar gyfer y cyfoethog yn unig, neu ar gyfer pobl sydd â manteision mewn bywyd?


Sut gall anghyfiawnderau'r byd hwn ac amodau tlodi ein helpu i sylweddoli bod angen Duw arnom?



Ym mha ffyrdd mae geiriau Iesu yn newyddion da i’r rhai ohonom sy’n wynebu anghyfiawnder?


Ysgrythur

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Following Jesus Our Mediator

Cardotyn dall yn gweiddi allan yn daer ar ochr y ffordd, gwraig anfoesol wedi’i dirmygu fel un frwnt gan gymdeithas foneddigaidd, gweithiwr llywodraeth lygredig sy’n cael ei chasáu gan bawb - sut gallai unrhyw un o’r bob...

More

Hoffem ddiolch i Oasis International Ltd am ddarparu'r cynllun hwn. Am ragor o wybodaeth, dos i: http://Oasisinternationalpublishing.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd