Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Mae Haearn yn Miniogi Haearn: Mentora Life-to-Life® yn yr Hen DestamentSampl

Iron Sharpens Iron: Life-to-Life® Mentoring in the Old Testament

DYDD 1 O 5

Dydd 1: Abraham a Lot



Mae Abraham yn rhoi i ni un o’r enghreifftiau cynharaf o fentora yn yr Hen Destament. Cerddodd ochr yn ochr â'i nai Lot, wnaeth ei ddilyn e allan o'u tref enedigol, Ur, i wlad newydd a addawyd gan Dduw.



O’r cychwyn cyntaf, roedd Abraham yn fentor trwy esiampl. Roedd Lot ar yn dyst wrth i Abraham gwrdd â, clywed, a siarad â Duw. Sylwodd fel roedd Abraham yn adeiladu allorau i'r Arglwydd, oedd wedi ymddangos iddo. Sylwodd Lot fel yr oedd Abraham yn dibynnu’n llwyr ar Dduw, a byddai yntau’n ei drystio e maes o law hefyd.



Wrth i'r Arglwydd roi llwyddiant i’r ddau ohonyn nhw, daeth amser pan oedd dim digon o dir i gynnal yr holl fuchesau, preiddiau a phebyll felly bu'n rhaid iddyn nhw wahanu. Cymerodd Abraham drugaredd ar Lot a gadael iddo e ddewis lle'r oedd am ymgartrefu yn gyntaf, ac ymsefydlodd Abraham yn rhywle arall.



Sylwa sut roedd Abraham yn gofalu am ei nai. Wnaeth e ei achub pan roedd Lot dros ei ben a’i glustiau mewn argyfwng, ac ymbiliodd yn ddwys ar ran Lot a’i deulu pan gododd argyfwng arall.



Pa wersi ymarferol mewn mentora are sail profiad bywyd allwn ni eu cymryd oddi wrth y berthynas hon? Yn gyntaf, paid â diystyru pŵer esiampl bersonol! Drwy dy esiampl dy hun, rwyt i fod yn fentor i lawer, yn enwedig y rhai rwyt ti'n cerdded gyda nhw agosaf.



Yn ail, mae'n rhaid i ni adael i'r rhai dŷn ni’n eu mentora i ddilyn eu cwrs eu hunain. Dim ond hyn a hyn o amser fydd gyda ni, a rhaid i ni eu rhyddhau i ofal Duw am y tymor hir. Weithiau gallan nhw wneud dewisiadau annoeth, hyd yn oed trasig (Genesis 19:8, 33,34). Ar yr un pryd, dŷn ni byth yn gadael iddyn nhw fynd yn llwyr. Dŷn ni'n parhau i fod yn barod i gael ein defnyddio gan Dduw i lefaru gwirionedd yn eu bywydau, i wneud popeth o fewn ein gallu i'w helpu i fyw bywydau hir, ffrwythlon yn yr Arglwydd.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Iron Sharpens Iron: Life-to-Life® Mentoring in the Old Testament

Wyt ti’n hiraethu am “wneud disgyblion sy’n gwneud disgyblion,” i ddilyn mandad Iesu yn y Comisiwn Mawr (Mathew 28:18-20)? Os felly, falle dy fod wedi darganfod ei bod yn anodd ffeindio rhai i fod yn esiampl dda ar gyfer...

More

Hoffem ddiolch i The Navigators am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.navigators.org/youversion

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd