Gwybodaeth Cynllun
Blwyddyn Newydd, yr Un DuwSampl
Y tîm gorau
Mae bywyd go iawn fel ysgol: Mae pawb eisiau ymuno â grŵp gyda'r rhai mwyaf deallus, ac o ddydd i ddydd mae'n rhaid i ni hefyd edrych am bobl a allai ein helpu i lwyddo.
Yn ystod y cynllun hwn dw i wedi rhoi tri cham y gelli di eu cymryd i ddechrau blwyddyn fendithiol, ond wnes i gadw’r un orau ar gyfer yr olaf.
Mae bywyd yn well pan fydd gennym gwmni da; mae'r pwysau’n ysgafnhau ac mae'r ffordd yn llai caled. Dyna pam ei bod hi'n dda ein bod ni'n rhan o dîm: Does dim rhaid i ti fynd yn erbyn y byd ar dy ben dy hun.
Dw i am iti ystyried gwneud rhywun dw i'n ei adnabod yn rhan o'th fywyd. Mae'n ffrind ffyddlon a bydd yn dy gefnogi ym mhopeth. Mae POPETH, yn troi allan yn dda gydag e wrth dy ochr. Mae bob amser yn ennill, does dim brwydr dw i wedi’i weld yn colli. Mae'n garedig iawn, pan fyddi di'n brin neu angen rhywbeth, gelli'i gael ganddo. Fydd e ddim yn gadael iti ddigalonni, bydd wrth dy ochr i'th gefnogi yn dy brosiectau. Mae'n mynd i fod gyda thi yn dy eiliadau anoddaf a bydd yn dy helpu i symud ymlaen. Mae'n berson go iawn, bydd yn dweud wrthot ti pan fyddi'n gwyro o'r llwybr a bydd yn dy gynghori i ddod o hyd i'th ffordd eto. Y peth gorau yw fy mod eisoes wedi siarad ag e ac mae'n barod i fod yn rhan o'th dîm.
Iesu yw ei enw; wyt ti'n ei nabod?
Wrth i ti ddechrau'r flwyddyn newydd hon, gofynna yn gyntaf am fendith a chymeradwyaeth Duw. Ymuna ag e heddiw. Gad inni roi'r gorau i ymladd cymaint yn erbyn Duw, gad iddo dy ddechrau ar dy ffordd ac ymddiried y bydd yn mynd â thi nid i ble rwyt ti eisiau mynd, ond i le mae angen i ti fynd.
Cerdded gyda Duw yw cerdded yn ddiogel, oherwydd e yw ein tywysydd.
Mae blwyddyn lawn o fendithion a phrofiadau yn ein disgwyl; Dw i'n dawel fy myd oherwydd fy mod yn perthyn i dîm yr enillydd. Bydd heriau; fydd popeth ddim yn mynd yn llyfn, ond y pryd hwnnw y mae Duw yn dangos i ni ei allu a'i ofal.
Cofia: Gwagia dy gês drwy adael popeth drwg ar ôl. Gosoda sawl nod i'th helpu i gael blwyddyn bwrpasol. Edrych arnat ti dy hun fel y mae Duw yn dy weld; gelli di wneud popeth. Ac yn olaf, rho dy fywyd (blwyddyn) yn nwylo Duw.
Duw + thi = buddugoliaeth sicr.
Tan y tro nesaf!
Gyda chariad, Leslie Ramírez.
Am y Cynllun hwn
Mae blwyddyn newydd wedi cyrraedd a chyda hynny, nodau a phenderfyniadau newydd dŷn ni am eu cyflawni. Mae popeth wedi newid yn y byd; er hynny, mae gennym yr un Duw hollalluog all roi blwyddyn fendithiol i ni. Ymunwch â...
More