Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Siarad BywydSampl

Speaking Life

DYDD 4 O 6

Hunan-Siarad



Y llais uchaf a glywn yw ein llais ein hunain. Y llais y tu mewn i ni... hunan-siarad. Mor dawel, ond mor bwerus. Mae hunan-siarad yn fargen go iawn. Mae hunan-siarad yn rhywbeth dŷn ni'n ei wneud yn naturiol trwy gydol ein horiau deffro. Mae'n fath o raglennu niwro-ieithyddol. Oherwydd ei natur ailadroddus, mae ganddo'r potensial i fowldio a cherflunio ein hymwybyddiaeth.



Mae ein gelyn yn ddinistrydd. Mae'n hoffi dod â chelwydd i mewn o blentyndod cynnar ac yna ein hargyhoeddi mai'r credoau ffals hyn yw ein gwirionedd. Yr unig beth sy'n wir amdanon ni yw'r hyn mae Duw, y Gwëwr, yr un sy'n Gwybod, Cynllunydd, Crëwr, yn ei ddweud amdanon ni. A allwn ni wahaniaethu'r ddau lais hyn? Mae un yn dod â bywyd a'r llall yn dod â marwolaeth, fel arfer marwolaeth feichus araf.



Dŷn ni wedi trafod bod ein meddyliau'n byrlymu allan ohonom yn ein geiriau. Yna, dŷn ni wedi clywed yr ""hunan"" yn siarad am ein ""hunan"". Mae'r hyn Mae'r hyn dŷn ni'n ei siarad yn aml yn dod yn realiti i ni. Os ydyn ni'n meddwl / dweud ein bod ni'n fud, yn dwp neu'n dew rydyn ni'n debygol o fyw bywyd yn ymddwyn yn union fel dŷn ni'n ei siarad. Beth pe baem yn cytuno â'n Creawdwr ac yn galw ein hunain yn anhygoel a rhyfeddol? Campwaith? Merch i'r Brenin? A fyddem yn byw yn wahanol? Pan dŷn ni'n meddwl yn wahanol, dŷn ni'n byw yn wahanol. Mae newid y ffordd rwyt ti'n meddwl yn newid dy bersbectif sy'n newid yr hyn rwyt ti'n ei ddweud a sut rwyt ti' gweithredu yn y byd.



Hunan-siarad cadarnhaol: Mae pobl yn dod yn fwy ymwybodol bod hunan-siarad cadarnhaol yn offeryn pwerus ar gyfer cynyddu ein hunanhyder a ffrwyno emosiynau negyddol. Mae'n strategaeth anhygoel ar gyfer newid. Mae geiriau cadarnhaol yn dda i'n hiechyd gan eu bod yn helpu i gynyddu ein hyder, gwella ein hwyliau, dileu straen a gwella iechyd a lles y galon. Credir bod pobl sy'n gallu meistroli hunan-siarad cadarnhaol yn fwy hyderus, llawn cymhelliant a chynhyrchiant. Fe greodd Duw ni ar gyfer bywyd a bywyd yn helaeth. Ydy hunan-siarad yn cyd-fynd â'i gynllun a'i eiriau e drosot ti?



Hunan-Siarad Negyddol: Rydym hefyd yn dod yn ymwybodol o effeithiau ein beirniad mewnol, ein hunan-siarad negyddol. Gall hunan-siarad negyddol ddylanwadu ar eich hunan-barch, eich agwedd ar fywyd, eich lefelau egni, eich perthnasoedd, a hyd yn oed eich iechyd. Trwy gymryd sylw o hunan-siarad negyddol, gallwn ddechrau'r broses angenrheidiol o dorri ar draws yr arfer dinistriol hwn. Mae'n bryd tawelu'r llais negyddol hwnnw yn ein pen a siarad bywyd a gwirionedd yn ein bywydau.



Mae ein hunan-siarad yn bwysig. Tala sylw. Yn amlach na pheidio, mae mor arferol siarad yn negyddol amdanat ti dy hun ac â thi dy hun fel nad wyt yn hollol ymwybodol dy fod yn ei wneud. Tybed a fyddet ti, am y pedair awr ar hugain nesaf, yn cymryd yr amser i roi sylw i'th feddyliau a hefyd yn cymryd sylw o sut wyt ti'n siarad amdanat dy hun? Gwna ymrwymiad i ddileu hunan-siarad negyddol. Yna alinio dy feddyliau a'th eiriau â'i wirioneddau llawn pŵer.



Myfyria:



Ym mha ffyrdd wyt ti'n gallu alinio dy hunan-siarad â'r hyn mae Duw yn ei ddweud amdanat ti? Wyt ti'n garedig i ti dy hun? Wyt ti'n gwybod a mynegi dy hunaniaeth yng Nghrist?



Gweddïa:



Arglwydd, helpa fi i gredu mai fi yw'r hyn rwyt ti'n ei ddweud ydw i. Dw i eisiau i'th lais fod y llais cryfaf yn fy mywyd. Gad i mi siarad dy galon yn fy nghalon.

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Speaking Life

Geiriau, geiriau, geiriau, geiriau llawn pŵer! Geiriau sy'n adeiladu neu eiriau sy'n rhwygo i lawr. Geiriau sy'n rhoi bywyd neu eiriau sy'n dod â marwolaeth. Ein dewis yw e. Gadewch inni werthuso'r pŵer sylweddol sydd yn...

More

Hoffem ddiolch i Roxanne Parks am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.roxanneparks.com/home.html

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd