Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Y Cwrs Cyn PriodiSampl

The Pre-Marriage Course

DYDD 1 O 5

Cyfathrebu


Mae cyfathrebu'n elfen hanfodol ar gyfer priodas iach. Dim ond pan fyddwn yn priodi y byddwn yn sylweddoli nad yw rhai o'n rhagdybiaethau dyfnaf am fywyd yn cael eu rhannu gan bawb.

, meddwl

Mae pawb yn cyfathrebu mewn ffyrdd gwahanol, ac mae hyn yn cael ei effeithio gan:




  • ein personoliaeth

  • ein cefndir


1. Ein personoliaeth



Allblygrwydd

Falle bod un ohonon ni'n prosesu'n syniadau'n allanol, mewn geiriau arall, siarad yn uchel wrth rannu feddwl y syniad.



Mewnblygrwydd

Falle bod ein partner yn rhoi trefn ar ei syniadau cyn eu rhannu ar lafar.



Dadansoddiadol

Falle bod un ohonon ni'n trefnu ein meddyliau am amser hir gan gymryd amser hir i wneud penderfyniadau.



Greddfol

Falle bod ein partner yn ymateb ar hap i syniadau a dod i gasgliadau ar sail hynny.



Mae siarad yn onest a derbyn y gwahaniaethau yma mewn perthynas yn hanfodol os am adeiladu priodas gref.



2. Cefndir ein teulu



Mae rhai teuluoedd yn dawel, tra bo eraill yn llawer iawn mwy swnllyd. Mae rhai teuluoedd yn gyfnewidiol. ac eraill yn dawelach. Mae rhai teuluoedd yn cymryd eu tro i siarad, tra bo eraill yn torri ar draws ei gilydd yn gyson.



Dŷn ni angen adnabod y gwahanol nodweddion hyn o gyfathrebu ym mhob un o'n teuluoedd, yn arbennig os yw un ohonon ni'n dod yn rhannu ein syniadau'n syth, tra bo teulu ein partner yn tueddu i oedi neu osgoi siarad am syniadau gwahanol yn gyfan gwbl.



Y rhwystrau ar gyfer cyfathrebu da


!. Methu caniatáu amser



Gosod digon o amser ar gyfer sgyrsiau ystyrlon, yn gyson.




  • trefna amser penodol yn dy galendr (dylai fyth ddigwydd ar hap)

  • amddiffyn yr amser yma rhag bethau sy'n tynnu sylw, fel ffonau neu sgriniau


Sylweddola pryd i anwybyddu popeth arall a gwrnado ar dy bartner.



2. Y diffyg o fethu siarad am deimladau



Mae'n rhaid i rai pobl ddysgu siarad am eu teimladau achos nad oedd ganddyn nhw rywun i ddilyn eu hesiampl wrth dyfu i fyny





  • Efallai dy fod yn ei chael hi'n anodd siarad am deimladau oherwydd synnwyr o annigonolrwydd neu o fod yn fregus, neu ofni ymateb y person arall.

  • mentra drystio dy bartner gyda'th deimladau.

  • Os yw dy bartner yn stryglo i fynegi eu teimladau, gwna'n siŵr dy fod yn gwrnado arnyn nhw heb eu beirniadu.


Mae rhannu ein meddyliau dyfnaf yn angenrheidiol ar gyfer priodas gref.



3. Y diffyg o beidio gwrnado ar eich gilydd



Mae gwrnado yn hynod bwysig ar gyfer adeiladu sylfaen o ddealltwriaeth ac agosatrwydd mewn priodas.



Mae peidio gwrnado'n niweidiol i berthynas. Ond, pan mae rhywun yn gwrnado arnom ni, dŷn ni'n teimlo'n:




  • wedi ein deall

  • yn werthfawr

  • wedi ein cefnogi

  • wedi ein caru


Mae'r rhan fwyaf ohonom angen cael gwared ar arferion gwrnado drwg, fel:




  • troi ffwrdd yn feddyliol pan mae ein partner yn siarad â ni

  • mynd i gyfeiriad gwahanol gyda ein stori ein hun

  • rhoi ein barn yn syth, yn lle bod yn empathetig gyda teimladau ein partner

  • annilysu eu hofnau neu fynegiant o emosiynau negatif, drwy eu cysuro'n ddiwedd y bydd popeth yn iawn

  • torri ar draws ein partner gyda ein barnau ein hunain neu orffen eu brawddegau


Sut i wrando


Mae hi'n cymryd amynedd i wrando'n effeithlon. Mae gwrnado'n effeithlon yn golygu:




  • gadael i'n partner orffen beth sydd ganddyn nhw i ddweud

  • rhoi ein agenda ein hunain i un ochr a cheisio gweld y byd drwy lygaid ein partner

  • gwneud ymdrech i'w deall nhw pan mae nhw'n meddwl neu deimlo'n wahanol i ni

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

The Pre-Marriage Course

Tydi priodasau cryf ddim yn datblygu ar hap. Ein gobaith yw, y byddi di'n darganfod yr agweddau, gwerthoedd, ac a'r arferion sydd eu hangen i adeiladu priodas iach a chryf fydd yn para oes. Mae'r cynllun pum diwrnod hwn ...

More

Hoffem ddiolch i Alpha am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://themarriagecourse.org/try/the-pre-marriage-course

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd