Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Alla i Wir Oresgyn Pechod a Themtasiwn?Sampl

Can I Really Overcome Sin and Temptation?

DYDD 4 O 5

Beth allaf i ei wneud pan dw i’n cael fy nhemtio?


dos ag e i Dduw - nawr


Pan fyddi’n cael dy demtio, cofia’r addewid hyn: Dydy'r temtasiynau dych chi'n eu hwynebu ddim gwahanol i neb arall. Ond mae Duw yn ffyddlon! Fydd e ddim yn gadael i'r temtasiwn fod yn ormod i chi. Yn wir, pan gewch chi'ch temtio, bydd yn dangos ffordd i chi ddianc a pheidio rhoi mewn. (1 Corinthiaid pennod 10, adnod 13).



Wnaiff Duw ddim caniatáu unrhyw demtasiwn na fydd w’n rhoi’r nerth i’w gorchfygu. Fydd Satan ddim yn gwastraffu ei amser gyda themtasiynau mae e’n gwybod y gallwn eu gorchfygu drwy ein nerth ein hunain.



Felly, bob tro y byddi’n cael dy demtio, dylet sylweddoli na elli di ennill y frwydr heb help Duw.



Datblyga’r ymateb o roi pob temtasiwn ar unwaith i'r Tad.



Gofynna iddo am ei nerth.



Gad e’n ei ddwylo.



Cyflwyna e i Dduw - nawr.



Ystyria’r canlyniadau



Beth os na wnei di?



Bydd ein pechodau cudd yn cael eu barnu gan Dduw: “Oherwydd bydd Duw yn galw pawb i gyfrif am bopeth wnaethon nhw - hyd yn oed beth oedd o'r golwg - y da a'r drwg (Y Pregethwr pennod 12, adnod 14).



Rhybuddiodd Iesu ni: “Bydd popeth sydd wedi'i guddio yn dod i'r golwg, a phob cyfrinach yn cael ei datgelu. Bydd popeth ddwedoch chi o'r golwg yn cael ei glywed yng ngolau dydd, a beth gafodd ei sibrwd tu ôl i ddrysau caeedig yn cael ei gyhoeddi'n uchel o bennau'r tai. (Luc pennod 12, adnodau:2-3).



Caiff ein geiriau eu barnu: “Ar ddydd y farn, bydd rhaid i bobl roi cyfri am bob peth byrbwyll ddwedon nhw. 37 Cei dy ddyfarnu'n euog neu'n ddieuog ar sail beth ddwedaist ti.” (Mathew pennod 12, adnodau 36-37).



Ar ôl rhestru pob math o bechod heb ei gyffesu, datganodd Pedr fod y rhai sy'n gwneud pethau o'r fath “wynebu Duw, yr un sy'n mynd i farnu pawb sy'n fyw a phawb sydd wedi marw.” (1 Peter 4:5).



Beth fydd yn digwydd iddyn nhw?



“ bydd safon gwaith pawb yn amlwg ar Ddydd y farn. Tân fydd yn profi ansawdd y gwaith sydd wedi'i wneud . . Ond os bydd gwaith rhywun yn cael ei ddinistrio, bydd y person hwnnw'n profi colled fawr. Bydd pobl felly yn cael eu hachub - ond dim ond o drwch blewyn y byddan nhw'n llwyddo i ddianc o'r fflamau!” (1 Corinthiaid pennod 3:adnodau 13, 15).



Bydd pechodau, meddyliau, neu eiriau annuwiol, heb eu cyfaddef, yn cael eu datgelu yn y farn a'u llosgi’n ulw. Gan fod y nefoedd yn berffaith, ni all y pethau hyn fynd i mewn - rhaid eu llosgi a'u dinistrio.



Glanheir pechod a chollir y wobr.



Pan fyddi’n cael dy demtio ac yn teimlo’r atyniad i siarad efo Duw, paid â rhedeg o’i bresenoldeb.



Yn yr eiliad iawn honno o angen, rheda ato e.


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Can I Really Overcome Sin and Temptation?

Wyt ti wedi gofyn i ti dy hun erioed, “Pam ydw i dal i frwydro gyda phechod?” Wnaeth Paul, hydy n oed, ddweud yn Rhufeiniad, pennod 7, adnod 15: “Dw i ddim yn deall fy hun o gwbl. Yn lle gwneud beth dw i eisiau ei wneud,...

More

Hoffem ddiolch i Denison Forum am ddarparu’r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.denisonforum.org

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd