Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Sicrwydd mewn Adegau o AnsicrwyddSampl

Certainty In Times Of Uncertainty

DYDD 4 O 5

Dydy ein cynlluniau ddim wastad yn gweithio allan yn ôl y disgwyl, ond byddan nhw wastad yn glynu at gynlluniau’r Arglwydd.



Dydy bywyd, fodd bynnag, fyth heb ei ergydion. Dydy methiant ddim yn rhan o’r ergydion hynny nes ein bod yn gadael i’r ergydion hynny ein rhwystro rhag symud ‘mlaen. Paid digalonni gymaint fel dy fod yn rhoi’r gorau i fynd ar drywydd dy bwrpas. Fedrwn ni ddim rheoli beth sy’n digwydd i ni, allwn ni ond rheoli ein hymateb. Dwedodd y Parch Charles R Swindoll ryw dro fod bywyd yn ddeg y cant o’r hyn sy’n digwydd i ni a 90 y cant o’r ffordd dŷn ni’n ymateb.



Mae dy feddylfryd yn beth pwerus iawn. Dydw i ddim yn meddwl fod pobl sy’n llwyddiannus ddim yn llwyddo am eu bod nhw’n fwy talentog neu’n fwy medrus. Mae pobl lwyddiannus yn llwyddo am fod ganddyn nhw feddylfryd am lwyddiant, hyd yn oed mewn methiant.



Rhaid i ni drystio’r broses, hyd yn oed pan fydd y daith yn un cythryblus. Mae Duw yn dy fowldio i’r cynllun sydd ganddo ar gyfer dy fywyd. Mae Duw’n ein rhoi drwy beth dw i’n ei alw’n “dymhorau o dreialon” i’n paratoi’n feddyliol ar gyfer pen y daith.



Dydy bod â sicrwydd mewn cyfnodau o ansicrwydd ddim yn golygu anwybyddu’r hyn sy’n digwydd o’th gwmpas. Dydy e ddim yn golygu na fydd gen ti deimladau nac ofnau, wedi’r cyfan, dŷn nI'n ddynol. Mae’n golygu, fel rhai sy’n dilyn Crist, dŷn ni’n dewis bod â ffydd ynghanol yr ofn a’r negatifrwydd all fod o’n cwmpas. Mae’n golygu, hyd yn oed pan fydd ofn yn ein meddwl, dŷn ni’n gwybod y bydd Duw’n darparu gyda beth bynnag sydd ei angen arnom i gario ‘mlaen.


Mewn cyfnodau o ansicrwydd mae dy Feibl yn sicrwydd



Mae Duw’n sicrwydd.



Mae Iesu wedi gwneud ei benderfyniad.



Ti’n gweld, falle ein bod ni’n byw mewn byd sy’n derfynol ond dŷn ni’n gwasanaethu Duw annherfynol.


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Certainty In Times Of Uncertainty

Yng nghanol ansicrwydd, mae Duw yn sicr! Ymuna â David Villa yn ei gynllun diweddaraf wrth iddo edrych heibio ansicrwydd a negyddiaeth er mwyn cyrraedd rhywbeth mwy.

Hoffem ddiolch i David Villa am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://davidvilla.me

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd