Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Penderfyniad Mwyaf Dy Fywyd!Sampl

Penderfyniad Mwyaf Dy Fywyd!

DYDD 1 O 6

"Ddylai Duw dy adael i mewn i'r Nefoedd?"




Dychmyga am funud fod dy fywyd ar y ddaear wedi dod i ben yn annisgwyl. Gyda syndod aruthrol rwyt yn darganfod dy hun yn sefyll o flaen dy Greawdwr. Wrth i'th syndod a'th barchedig ofn droi yn ddisgwyliad a chynnwrf i weld, o'r diwedd, dy gartref tragwyddol, rwyt yn cael dy stopio cyn mynd i mewn. Mae Duw yn gofyn y cwestiwn treiddiol i ti, "Pam ddylwn i dy adael di i mewn i'r nefoedd?" 




Sut fyddet ti'n ymateb?




Diolch byth, pan ddaw y diwrnod hyfryd hwnnw i bob un ohonom, fydd Duw ddim yn ein rhoi ar brawf cyn mynd i mewn. Fodd bynnag, mae'r senario yn tynnu llun pwysig i brocio'r meddwl er mwyn ein helpu i ddeall yn well beth yw iachawdwriaeth. 




Byddai rhai yn ateb Duw drwy ddweud y pethau da wnaethon nhw. Byddai eraill yn disgrifio sut buon nhw'n ffyddlon wrth fynychu eu heglwys, a byddai eraill yn rhestru'r pethau drwg mewn bywyd wnaethon nhw eu hosgoi. Tra bod rhain yn elfennau pwysig o'r bywyd Cristnogol. dydyn nhw ddim yn sicrhau iachawdwriaeth. Dim ond un ateb cywir sydd i'r cwestiwn:




"Dw i wedi gwneud Iesu Grist yn Arglwydd ar fy mywyd, ac mae e wedi fy nglanhau o'm holl bechodau."

Ysgrythur

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Penderfyniad Mwyaf Dy Fywyd!

Mae'r rhan fwyaf o benderfyniadau mewn bywyd o bwys. Fodd bynnag, un sydd bwysicaf. Os wyt ti'n edrych am ganllaw i ddeall dyfnach o'r penderfyniad hynod hwn - Iachawdwriaeth rhad ac am ddim Duw - cychwyna yma. Dyfyniad ...

More

Hoffem ddiolch i Twenty20 Faith, Inc. am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i: http://www.twenty20faith.org/yvdevtmp

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd