Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Yn Bryderus am DdimSampl

Anxious For Nothing

DYDD 4 O 7

Mae Iesu’n ein cwrdd ynghanol pryder, hyd yn oed pan dŷn ni ddim yn sylweddoli ei fod yna ar y dechrau. Profodd Chelsea bryder gyntaf yn syth ar ôl graddio o’r coleg. Dyma ei stori am sut wnaeth Duw ddod â hi allan o dywyllwch i heddwch.



Roedd y teimladau o ofn, poeni, ac iselder mor real, o’n i prin yn gallu bwyta oherwydd mod i’n teimlo’n sâl. Ro’n i’n cysgu mwy na 12 awr bob nos, ond eto, bob bore roedd hi’n frwydr i godi. Roedd pethau’n troi a throsi’n fy meddwl gymaint fel nad o’n i’n siarad rhai dyddiau. Chwiliais am help gan fy nheulu, doctor, cynghorydd, gweinidogion, a ffrindiau, ond roedd fy nyddiau tywyllaf yn edrych yn ddiddiwedd



Dŷn ni i gyd yn profi dyddiau tywyll. A gall y dyddiau tywyll hynny bara am wythnosau. Neu fisoedd. Neu flynyddoedd. Ond os wyt ti’n gwybod y stori am ddydd Gwener y Groglith, y diwrnod wnaeth Iesu roi ei fywyd drosot ti, ti’n gwybod fod yna newyddion da. Mae dydd Gwener yn dywyll, ond mae dydd Sul yn dod!



Mae gynnon ni obaith yn y tywyllwch, ac mae gan ein gobaith enw. Ei enw yw Iesu.



Ar fy niwrnod tywyllaf, dydd Gwener ym mis Gorffennaf, wnes i agosáu ato o’r diwedd, yn union fel roedd e wedi bod yn agosáu ataf i. Gweddïais:



Iesu, helpa fi i wrthod celwyddau’r gelyn.

Iesu, helpa fi i drechu fy nghalon bryderus.

Iesu, helpa fi drystio dy fod yn rheoli.

Iesu, helpa fi i gredu fod yr Ysbryd wnaeth dy godi di o farw’n fyw, yn byw ynof i.



Ddeuddydd yn ddiweddarach, ar y Sul, wnes i ddeffro heb y pwysau trwm o iselder a’r teimladau o bryder. Am y tro cyntaf mewn oesoedd, ro’n i’n gallu teimlo ei heddwch. A wnes i brofi iachâd gwyrthiol all gael ei esbonio’n unig gan ddaioni Duw.



Yn ystod fy nyddiau tywyllaf rhoddodd Iesu obaith imi. Hyd yn oed pan oeddwn yn methu ei deimlo, roedd e yna. Pob un diwrnod ro’n i’n teimlo’n bell oddi wrtho, roedd e’n fy nhynnu’n agosach at ei hun.



Dw i ddim yn gwybod os wnei di brofi’r iachâd gwyrthiol sydyn o’th boen fel y gwnes i. Od dw i’n gwybod i sicrwydd fod Duw gyda thi, yn dy boen.



Mae Iesu’n deall dioddefaint dynol. Ac mae o bwys gan e. Roedd o bwys ganddo gymaint, fel y bu iddo adael y nefoedd a marw drosom ni i roi diwedd ar y tywyllwch, unwaith ac am byth.



Mae’r Beibl yn dweud:... ”Ynddo fe roedd bywyd, a'r bywyd hwnnw'n rhoi golau i bobl. Mae'r golau'n dal i ddisgleirio yn y tywyllwch, a'r tywyllwch wedi methu ei ddiffodd. Ioan, pennod 1, adnodau 4 i 5 beibl.net



Mae dydd Sul yn dod.



-Chelsea


Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

Anxious For Nothing

Beth os oes yna ffordd arall i frwydro'n erbyn y pryderon diddiwedd sy'n dy gadw'n effro drwy'r nos? Mae gorffwys go iawn ar gael - yn nes nac wyt ti'n feddwl. Ffeiria panig gyda heddwch gyda'r Cynllun Beibl 7 niwrnod hw...

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd