Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gweithredoedd o EdifeirwchSampl

Acts of Repentance

DYDD 5 O 5

Y prif reswm pam wnaeth Duw anfon ei unig fab Iesu i'r byd oedd i roi bywyd newydd i ni. Yn Luc 5:27-32, mae Iesu yn disgrifio ei waith fel yma: "Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy'n sâl. Dw i wedi dod i alw pechaduriaid i droi at Dduw, dim y rhai sy'n meddwl eu bod nhw heb fai." Daeth Crist er mwyn i bechaduriaid fel ti a fi gael bywyd newydd drwy i ni edifarhau a derbyn ei faddeuant. Mae edifarhau a gofyn iddo faddau i ni yn newid ein bywydau am byth. Ond cenhadaeth Crist ydy'n cenhadaeth ninnau. Rydyn ninnau'n gael ein galw i weinidogaethu i'r rhai hynny sydd ar goll ac angen maddeuant, nid i'r bobl hynny sy'n meddwl eu bod nhw heb fai. Os wyt ti wir wedi edifarhau am dy bechod a derbyn maddeuant Duw, yna mae gen ti stori i'w rhannu gyda'r bobl hynny sydd angen edifarhau. Gall y newid yn dy fywyd di arwain i newid ym mywyd rhywun arall. Pwy wyt ti'n ei nabod sydd angen edifarhau a derbyn maddeuant Duw? Sut all dy stori di am faddeuant Duw helpu rhywun arall i edifarhau?

Ysgrythur

Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

Acts of Repentance

Mae edifarhau yn un o'r camau allweddol mae'n rhaid i ni ei gymryd i adnabod Crist fel Gwaredwr personol. Ni sy'n edifarhau a Duw sy'n maddau. Dyna ymateb ei gariad perffaith o tuag aton ni. Yn ystod y cynllun darllen 5-...

More

We would like to thank Life.Church for providing this plan. For more information, please visit: www.life.church

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd