Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

AflonyddwchSampl

Restless

DYDD 1 O 3

Mae dy ffôn yn orlawn. Mae dy galendr allan o reolaeth. Mae dy restr o bethau i'w gwneud yn ddiddiwedd. Mae dy feddwl yn rhuthro. A phan fyddi'n deffro'n y bore, mae hymian pryder yn dy wynebu a'th ddilyn drwy gydol y dydd.

Ydy hynny'n gyfarwydd? Heddiw, yn amlach nac erioed o'r blaen, dŷn ni'n aflonydd. Baswn i'n dadlau bod tri ffactor sy'n cyfrannu i aflonyddwch y Cristion heddiw. Yn y lle cyntaf, dŷn ni (fel gweddill y byd) yn treulio gymaint mwy o amser yn dilyn adloniant, cyfryngau cymdeithasol, apiau, a gemau, fod y pethau hyn oedd yn cyfrannu at fywyd yn llyncu bywyd. Yn ail, dŷn ni dim yn cymryd yr amser i "fynd drwy giatiau [yr Arglwydd]... yn ei foli" sy'n arwain at anniddigrwydd a chael ein gyrru i gyflawni a chronni mwy. Ac yn olaf - dŷn ni'n methu wrth beidio cymryd yr amser i atgoffa ein hunain yn rheolaidd o'r efengyl a sut mae ein hunaniaeth yng Nghrist yn ein rhyddhau o'r angen i wneud mwy yn gyson.



Efallai ei fod yn swnion or-syml, ond os yw ein problem yw aflonyddwch, yr ateb yw cymryd seibiant oddi wrth ffynonellau aflonyddech. Er mwyn dod o hyd i wir orffwys a heddwch, rhaid inni dorri’n rheolaidd oddi wrth ofynion di-baid y byd hwn a’n gwaith. Rhaid i ni neilltuo amser i ddiolch yn syml am yr hyn y mae Duw wedi'i roi i ni, yn hytrach nag ymdrechu am fwy bob amser. Ac mae’n rhaid i ni gyfnewid dros dro y pethau sy’n ein draenio (e-bost, ffonau clyfar, ac ati) am y pethau sy’n dod â bywyd i ni (ffrindiau, teulu, Gair Duw, ac ati).



Yn ffodus, mae gan y Beibl fodel ar gyfer y math hwn o orffwys: Saboth. Nawr, hyd at ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd Saboth yn enw i mi, nid berf. Roedd yn air hynafol am ddiwrnod o'r wythnos, nid rhywbeth yr oedd Cristnogion modern yn ei ymarfer mewn gwirionedd. Am amser hir, roedd Saboth yn swnio'n debycach i feichusrwydd cyfreithlon i mi nag anrheg rasol a fyddai'n datrys fy aflonyddwch. Ond trwy astudio geiriau Iesu yn ofalus, dw i wedi newid yn llwyr sut dw i'n meddwl am orffwys Sabothol. Nawr, ni allaf ddychmygu fy mywyd hebddo.



Yfory, byddwn yn edrych ar yr hyn nad yw'r Saboth ar gyfer Cristion heddiw, gan ddadwneud llawer o'r chwedlau dw i (ac efallai chi) wedi'u cynnal ers amser maith am yr arfer hynafol. Ac yna, yn ein diwrnod olaf o'r cynllun hwn, byddwn yn edrych ar yr hyn y mae'r Beibl yn ei ddweud y gall gorffwys Sabothol fod a'r hyn y gall edrych fel yn ymarferol i ni heddiw.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Restless

"Mae ein calonnau'n aflonydd nes dod o hyd i orffwys ynddot ti." Nid yw cymaint ohonom erioed o'r blaen wedi teimlo'r aflonyddwch a ddisgrifiwyd gan Awstin gyda'r frawddeg enwog hon. Ond beth yw'r ateb i'n diffyg gwir or...

More

Hoffem ddiolch i Jordan Raynor am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.jordanraynor.com/restless/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd