Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Mynd ar ôl y ForonenSampl

Chasing Carrots

DYDD 1 O 7

Mynd ar ôl y Foronen



Mae'r idiom Saesneg "chasing carroys" yn dod o fetaffor sy'n dyddio nôl i'r 1800au. Dychmyga gartŵn o asyn gyda moronen yn hongian o'i flaen, fymryn bach o'i gyrraedd. Mae'r un sydd ar gefn y mul yn dal y foronen ar ffon hir ac yn ei defnyddio i annog yr asyn i rasio, i'r asyn mae'r wobr dim ond un cam i ffwrdd bob tro.



Wyt ti'n teimlo fel yr asyn hwnnw?



Ymhell bell cyn y 1800au galarodd y Brenin Solomon am ymlid gweithgareddau ofer yn ddim mwy na "cheisio rheoli'r gwynt."



Wyt ti wedi ceisio dal y gwynt? Mae e wastad gam o'th flaen.



Yr hyn sy'n dwyllodrus am "fymryn bach o'i gyrraedd" yw bod hwnnw yno bob amseryn un cam i ffwrdd. Dim ond ychydig mwy o flynyddoedd yn y job neu unwaith y byddi wedi graddio, neu briodi, neu pan fydd y plant yn hŷn, neu dy ffydd yn gryfach, neu fforddio'r oeth nesaf sy'n addo hapusrwydd. Dim ond un cam arall.



Mae ffordd well i fyw. Gelli gamu i ffwrdd oddi ar felin draed perfformiad. Mae cymaint mwy i fywyd na hynny.



Fe wnaeth Iesu ddelio gyda'r angen bythol yma yn Mathew 6. Wrth iti ddarllen geiriau Iesu heddiw, rho dro ar hyn. Cymer anadl ddofn ac anghofio dy bryderon. Dychmyga dy fod di yna wrth iddo ddysgu. Ar beth wyt ti'n eistedd? Beth wyt ti'n ei arogli? Sut mae ei lais yn swnio? Beth arall wyt ti'n ei glywed? Beth wyt ti'n ei weld? Beth sy'n cael ei ddinoethi o'th fewn wrth iti glywed ei lais?



Ar ôl iti orffen y darlleniad am heddiw, gan ddefnyddio'r dull uchod, dyma ddau gwestiwn i'w ystyried. Ond oedd hi'n braf i arafu a threulio amser gydag Iesu? Sut fedra i wneud mwy o le i Iesu yn fy mywyd?



Gweddïa: Ar ôl y darlleniad, gweddïa ar i Dduw dy arafu, ddigon i glywed ganddo drwy diwrnod cyfan.



Yma fe weli di fideo, canllawiau trafodaeth, a mwy am fynd ar ôl y foronen.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Chasing Carrots

Dŷn ni i gyd yn awchus am rywbeth. Fel arfer rhywbeth sydd tu hwnt i'n cyrraedd - gwell job, cartref mwy cysurus, y teulu perffaith, cymeradwyaeth eraill. onid yw hyn yn feichus? Oes yna well ffordd? I ddarganfod os oes ...

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd