Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

JESUS THE KING: Defosiwn ar gyfer y Pasg gan Timothy KellerSampl

JESUS THE KING: An Easter Devotional By Timothy Keller

DYDD 1 O 9

"Galwad gan y Brenin"



Nid cyngor ydy’r Beibl. Y newyddion da yw ble nad oes angen ennill dy ffordd at Dduw am fod Iesu wedi gwneud hynny drosot ti’n barod. Rhodd yw, rwyt yn ei dderbyn trwy ras Duw - drwy ffafr hollol annheilwng. Os wyt ti’n dal gafael yn y rhodd hwnnw, yna bydd galwad Iesu yn dy rwystro rhag dilyn llwybr eithafiaeth. Iesu fydd dy nod a blaenoriaeth absoliwt, i aros yn ei gwmni, ac eto pan fyddi’n cwrdd rhywun gyda blaenoriaethau neu ffydd wahanol, fyddi di ddim yn tybio dy fod yn well na nhw. Yn hytrach byddi’n chwilio am gyfle i’w gwasanaethu yn hytrach na’u gormesu.



Pam? Oherwydd dydy’r efengyl ddim ynglŷn â dewis i ddilyn cyngor, mae’n ymwneud â chael dy alw i ddilyn Brenin. Nid rhywun gyda’r pŵer a’r awdurdod i ddweud wrthot ti beth sydd angen ei wneud - ond rhywun gyda’r pŵer a’r awdurdod i wneud yr hyn sydd angen ei wneud, ac yna ei gynnig iti fel newyddion da.



Ble ydyn ni’n gweld y math yna o awdurdod? Dŷn ni eisoes wedi gweld arwyddion goruwchnaturiol, sy’n cyhoeddi ei awdurdod dwyfol, ym medydd Iesu. Yna dŷn ni’n gweld Simon, Andreas, Iago ac Ioan yn dilyn Iesu heb oedi - felly mae ei alwad ei hun gydag awdurdod. Mae Marc yn parhau i adeiladu ar y thema yma:



“Wedyn dyma nhw'n mynd i Capernaum. Ar y dydd Saboth (pan oedd yr Iddewon yn addoli Duw), aeth Iesu i'r synagog a dechrau dysgu'r bobl. Roedd pawb yn rhyfeddu at beth roedd yn ei ddysgu. Roedd yn wahanol i'r arbenigwyr yn y Gyfraith - roedd ganddo awdurdod oedd yn gwneud i bobl wrando arno.”

(Marc 1:21-22)



Mae Marc yn defnyddio‘r term awdurdod am y tro cyntaf; mae’r gair yn golygu “allan o’r stwff gwreiddiol” yn llythrennol. Mae’n dod o’r un gwreiddyn ag awdur. Pwrpas Marc yw dangos fod Iesu yn dysgu am fywyd gyda stwff gwreiddiol ac nid o ryw ffynhonnell awdurdodedig.



Sut olwg fyddai ar dy fywyd pe byddet ti’n ildio i’r Brenin perffaith hwn? Dy fywyd gweithiol? Dy fywyd carwriaethol? Dy fywyd teuluol? Dy fywyd ariannol? Dy fywyd cymdeithasol?



Dyfyniadau o JESUS THE KING gan Timothy Keller.

Wedi’i ailargraffu drwy drefniant gyda Riverhead Books, aelod o Penguin Group (USA) LLC, A Penguin Random House Company. Hawlfraint © 2011 gan Timothy Keller



Ac o JESUS THE KING STUDY GUIDE gan Timothy Keller a Spence Shelton, Hawlfraint (c) 2015 gan Zondervan, adran o HarperCollins Christian Publishers.

Ysgrythur

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

JESUS THE KING: An Easter Devotional By Timothy Keller

Mae Timothy Keller, awdur llwyddiannus a gweinidog enwog yn rhannu cyfres o ddigwyddiadau ym mywyd Iesu fel y sonnir amdanynt yn llyfr Mathew. Wrth gymryd golwg fwy manwl ar y storïau hyn mae e'n taflu golau newydd ar y ...

More

Dyfyniadau o Riverhead books, aelod o Penguin Random House. Canllaw Astudiaeth gan y cyhoeddwyr, Harper Collins. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.penguin.com/book/jesus-the-king-by-timothy-keller/9781594486661 neu http://www.zondervan.com/jesus-the-king-study-guide

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd