Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

DUW + BWRIADAU: Sut i bennu Bwriadau fel CristionSampl

GOD + GOALS: How To Set Goals As A Christian

DYDD 1 O 5

DYDD 1: Ydy hi'n iawn i bennu bwriadau fel Cristion?



Rwyt eisiau dilyn Duw A chyflawni bwriadau sydd â phwrpas. Ond rwyt yn poeni y bydd pennu bwriadau'n dy arwain i ffwrdd oddi wrth cynlluniau Duw ar dy gyfer. "Ydy hi'n iawn i bennu bwriadau fel Cristion? Beth mae Gair Duw'n ei ddweud am sut i wneud hyn ac aros yn unol â'i ewyllys e? Mae gan Dduw lot iawn i'w ddweud am fwriadau, trefnu bwriadol, a stiwardio'r hyn sydd wedi'i roi i ni.



Yr ateb byr ydy: mae bwriadau'n dda! Roedd gan Iesu fwriadau hyd yn oed. Mae Duw'n dymuno i ni fyw ar bwrpas, nid ar hap a damwain. Mae'r ffaith dy fod yn gofyn ac yn chwilio am ei ewyllys yn golygu dy fod eisiau gwneud beth sy'n iawn yn y bywyd hwn. Mae ei air e ar fin taflu golau ar sut i osod y bwriadau cywir ar waith a'u cyflawni gyda brwdfrydedd.



Ond, paid disgwyl i ddod o hyd i restr gwirio neu fformwila atgyweirio sydyn, yn y Beibl, ar gyfer gosod bwriadau. Petasai hi mor hawdd â hynny, bydden ni'n darllen y rhestr, ticio'r rhestr i ffwrdd wrth eu gwneud, a byth yn siarad â Duw am ein cynlluniau. Nid dilyn cyfarwyddiadau yw'r pwrpas, mae e am gael perthynas gyda'r un wnaeth dy greu gyda doniau a thalentau unigryw i'w defnyddio, sef Duw ei hun.



A'r dewis amgen i bennu bwriadau da? Crwydro'n ddigyfeiriad, gan adael i fywyd fynd rhagddo. Meddylia mewn difri calon. Wnaeth unrhyw un o'r prif gymeriadau'r Beibl eistedd o gwmpas yn gwneud dim? Do, gafodd nhw ambell i gam gwag, ond roedd Moses, Dafydd, Solomon, Esther, Ruth, Ioan, Paul, a Iesu ei hun, bob un, â bwriadau, ac aethon nhw ati gyda grym a doethineb Duw. Rwyt ar in gwneud yr un peth, un cam bach a naid o ffydd, ar y tro.



Gweddïa gyda mi: Arglwydd, dw i eisiau dy ddilyn di, a pennu bwriadau sy'n uniaethu gyda dy fwriadau ar gyfer fy mywyd. Diolch am fy nghreu gyda doniau a thalentau unigryw i'w defnyddio er mwyn pwrpas mawr Duw. Dw i eisiau mynd ble rwyt ti'n mynd. Os gweli di'n dda, dangosa i mi sut i bennu bwriadau'n yn unol â'th ddymuniad.. Dw i angen dy ddoethineb ar gynllunio a phwrpas fel fy mod yn gallu stiwardio'r hyn rwyt wedi'i roi i mi. - fy amser, fy arian, fy ngwaith, fy mherthynas ag eraill, fy iechyd - yn union ble rydw i. Agor fy llygaid i dy wirionedd a helpa fi i'w symud o'm pen, i'm calon, i'm dwylo. Yn enw Iesu. Amen!


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

GOD + GOALS: How To Set Goals As A Christian

Ydy hi'n iawn i bennu bwriadau fel Cristion? Sut wyt ti'n gwybod os yw'r bwriad yn un gan Dduw neu ydy e o'th ben a'th bastwn dy hun? A beth bynnag, sut olwg sydd ar fwriadau Cristnogol? Yn y cynllun pum diwrnod hwn bydd...

More

Hoffem ddiolch i Cultivate What Matters am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.cultivatewhatmatters.com/youversion

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd