Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Taith Di-bryderSampl

Travel Light

DYDD 1 O 7

Gollwng gafael ar ... Bopeth


A wyt ti erioed wedi bod yn heicio? Mae'n llawn hwyl ac yn aml yn arwain at gyrchfannau syfrdanol. Pan fyddi di'n mynd i heicio am y tro, buan iawn y doi di i sylweddoli fod popeth rwyt wedi dod gyda ti'n rhywbeth rwyt yn ei gario. Am filltiroedd. Fel arfer i fyny allt. Mae'r rhan helaeth o heicwyr yn gwybod na fedri di ddod â phopeth rwyt ei eisiau. Mae heicwyr profiadol yn gwybod na fedri di ddod â popeth rwyt ti'n feddwl ti angen.


Mae pob manylyn yn bwysig.


Ddim yn annhebyg i fywyd yn nag ydy? Yn llawer rhy aml, dw i'n trio cario beth wnaeth Duw fyth ei fwriadu imi ei gario. Dw i'n gwybod yn well na meddwl fod Duw eisiau imi gario rhwygiadau teuluol, problemau ariannol, bod yn edifar am benderfyniadau gwael, methu taro'r nod yn y gwaith, a beth bynnag arall dw i wedi ceisio'i dal arnodd iddo heddiw.


Mae Duw'n gofyn i ni'n hollol ddiamwys i ildio ein poenau iddo e (1 Pedr, pennod 5, adnod 7) ac i ollwng gafael ar unrhyw beth sy'n ein dal ni nôl (Hebreaid, pennod 12, adnod 1). Mae'n gwbl anhygoel fod Duw o ddifri wrth ddweud ei fod eisiau i ni ollwng gafael ar bopeth sy'n ein rhwystro. Ond pam fod Duw eisiau i ni ollwng gafael? Pam fod e eisiau cymryd ein hofnau, cywilydd, dibyniaeth, gofidiau. a materion bod mewn rheolaeth?


Pan fyddi'n pacio dy fag i fynd i heicio, mae popeth rwyt yn ei adael allan yn gadael lle i rhywbeth arall. Mae Duw eisiau mwy o le yn ein bywydau ar gyfer ei hun.


Mae hynny'n gyfaddawd an hygoel os wyt ti'n meddwl am y peth, dŷn ni'n rhoi ein beichiau i Dduw ac mae e'n rhoi ei hun i ni. Tywyllwch am olau. Straen am heddwch. Gwylltineb am ryddid. Eto, po fwyaf dŷn ni'n ei gymryd ganddo, gymaint mwy ysgafn ŷm ni.


Beth yw rhai o'r bethau rwyt wedi'u codi ar y daith ac sy'n mynd yn ormod i'w gario i ti? Does dim rhaid i ti eu cario ddim mwy. Gelli eu newid am fwy gan Dduw. Pam fyddet ti eisiau dal gafael yn rhywbeth sydd ddim angen i ti ei gario? Sut fedri di drystio Duw gydag e? Beth wyt ti'n feddwl rwyt ti ei angen nad wyt, hyd yn oed, efo'r cryfder i'w gario? Sut fedri di adael i Dduw ac eraill gario peth o'r baich?


Matt, yn gwella o ddal gafael mwn gormod

Gweddïa:O Dduw, dw i am dderbyn dy gynnig, Wna i ddechrau trystio ynot ti gyda(ychwanega dy feichiau). Diolch am fy nghario a'm cynnal i. Amen.


Gwranda a'r negeseuon a chael adnoddau ar hyn.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Travel Light

Mewn tymor prysur adeg y Nadolig mae'r rhan fwyaf ohonom yn teimlo straen a phryder o fewn perthynas f=deuluol, penderfyniadau brysiog, a disgwyliadau siomedig. Felly dos yn dy flaen. Pwylla a dechrau'r cynllun Life.Chur...

More

Hoffem ddiolch i Life Church am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.life.church/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd