Gwybodaeth Cynllun
PryderSampl
Beth os digwydd hyn a’r llall? Wyt ti erioed wedi delio gyda'r cwestiwn, Beth os? Mae meddwl fel hyn w'r cam cyntadf at bryder. Mae pryder yn cymryd drosodd y pethau hynny na ddylet fod yn ceisio delio â nhw. Mae pryderu yn arwydd o ddiffyg ymddiriedaeth yng Nghreawdwr y bydysawd. Mae pryder yn dweud y gelli ddelio â'r peth, pan mewn gwirionedd, fedri di ddim. Wyt ti'n poeni dy fod yn pryderu gormod? Dwyt ti ddim yn gallu trechu pryder drwy boeni amdano. I drechu pryder rhaid ailgyfeirio dy bryderon i un all wneud rhywbeth am dy sefyllfa. Dyw e ddim yn golygu nad wyt yn cymryd cyfrifoldeb am y pethau rwyt i fod i ddelio â nhw; mae'n golygu dy fod yn gwybod ble i stopio a ble mae Duw yn dechrau. Wyt ti'n pryderu nad wyt yn gwybod digon amdano? Gwranda ar beth sydd gan y Beibl i’w ddweud wrthyt.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Medrwn adael i ofn a phryder lenwi ein bywydau. Nid ysbryd o bryder ac ofn fydd Duw yn ei roi i ni ond ysbryd o ddewrder. Mae’r cynllun darllen saith diwrnod am bryder yn help i ti osod Duw yng nghanol dy amgylchiadau. Y...
More
We would like to thank Life.Church for providing this plan. For more information, please visit: www.life.church