Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Sut i Astudio'r Beibl (Seiliau)Sampl

How To Study The Bible (Foundations)

DYDD 1 O 5

Pam Mae Astudio'r Beibl o Bwys


Mae’n amhosib adnabod Duw heb wybod y Beibl.


Dw i'n cofio'r tro cyntaf i mi glywed y llinell hon. Ro’n i’n Gristion ifanc yn awyddus i ddewis y peth iawn i arwain fy nghalon tuag at y chwantau cywir. Roeddwn i'n gwybod y gallai Duw drawsnewid fy mywyd a ro’n i eisiau ei adnabod yn dda.


Sut un oedd e go iawn? Beth oedd arno ei eisiau gen i? Pam oeddwn i yma?


Dros y ddegawd nesaf, fe’i gwnes hi’n ddyletswydd arnaf i ddysgu’r Beibl cystal ag y gallwn er mwyn i mi allu adnabod Duw yn ddwfn. Mae'r penderfyniad wedi mynd â mi ar lwybr na allwn erioed fod wedi'i ddychmygu.


Mae'r defosiwn byr hwn yn gyflwyniad i rai o'r mewnwelediadau mwyaf defnyddiol yr wyf wedi'u canfod dros y degawd diwethaf. Byddi’n darganfod y technegau, adnoddau, a strategaethau i'th helpu i gael y gorau o'ch amser darllen, yn ogystal ag anogaeth i gredu bod gwybod dy Feibl yn werth pob owns o waith sydd ei angen oherwydd y wobr yw Duw ei Hun.

Cymera’r her a dysga sut i drawsnewid dy brofiad Beiblaidd o fod yn faich i fod yn arferiad hanfodol. Mae Duw yn aros i ti ei adnabod yn well. Mae wedi gosod y gwahoddiad mawreddog. Ti sydd i benderfynu beth sy'n digwydd nesaf.



Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

How To Study The Bible (Foundations)

Mae’n hawdd teimlo wedi dy orlethu, heb gyfeiriad, ac ar goll o ran Gair Duw. Fy nod yw symleiddio’r broses o Astudio’r Beibl i ti mewn ychydig ffyrdd trwy ddysgu tair o egwyddorion pwysicaf Astudiaeth Feiblaidd lwyddian...

More

Hoffem ddiolch i Faithspring am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.ramosauthor.com/books/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd