Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Defosiwn Diolchgarwch Dyddiol Paul TrippSampl

Paul Tripp's Daily Thanksgiving Devotional

DYDD 1 O 12

Mae pechod yn gwneud dau beth arwyddocaol i bob un ohonom. I ddechrau, mae'n achosi i ni hunan ynysu o fewn ein byd ein hunain, gan wneud bywyd yn rywbeth amdanom ni. Yn ein hunan ffocysu, dŷn ni wedi ein symbylu ormod gan ein anghenion, ein teimladau, ac oherwydd hynny, dŷn ni'n tueddu i sylweddoli ar beth sydd ddim gynnon ni, yn hytrach na'r llu o fendithion hyfryd sydd wedi'u rhoi i ni. Ond mae yna fwy, oherwydd am ein bod wedi hunan ffocysu, dŷn ni'n dueddol o gadw cyfrif, gan gymharu'r swp o bethau sydd gynnon ni, o'i gymharu ag eraill. Mae e'n fywyd o anfodlonrwydd ac eiddigedd. Mae eiddigedd yn hunanol, bob amser.



Mae yna ail beth arwyddocaol mae pechod yn ei wneud i ni. Mae e'n ein cymell i edrych yn llorweddol, yn hytrach na fertigol ble mae'r ateb i'w gael. Felly dŷn ni'n edrych i'r greadigaeth am fywyd, gobaith, heddwch, gorffwys, bodlonrwydd, hunaniaeth, ystyr a phwrpas, heddwch mewnol, ac anogaeth i gario mlaen. Y broblem ydy, gall dim byd yn y greadigaeth roi run o'r rhain i ti. Chafodd y greadigaeth mo'i ddylunio i fodloni dy galon. Bwriad y greadigaeth oedd dangos y ffordd at yr unig Un all fodloni dy galon. Bydd llawer o bobol yn codi heddiw a gofyn i'r greadigaeth fod yn waredwr iddyn nhw, hynny yw, i roi iddyn nhw beth all duw ond ei roi iddyn nhw.



"Pwy sydd gen i yn y nefoedd ond ti? A does gen i eisiau neb ond ti ar y ddaear chwaith. Mae'r corff a'r meddwl yn pallu, ond mae Duw'n graig ddiogel i mi bob amser." (Salm 73, adnodau 25 i 26). Dyma eiriau y dyn ddarganfyddodd y gyfrinach i fodlonrwydd. Pan rwyt yn fodlon gyda'r Rhoddwr, am dy fod wedi darganfod ynddo y bywyd roeddet ti'n chwilio amdano, rwyt wedi dy ryddhau o'r cwest rheibus am fodlonrwydd sy'n digalonni bodolaeth cymaint o bobl. Ydy, mae e'n wir na fydd dy galon yn gorffwyso hyd nes dy fod wedi darganfod y gorffwys sydd i'w gael ynddo e.



Dyma un o ffrwythau hyfrytaf gras - calon sy'n fodlon, wedi'i rhoi i addoliad, fwy na i orchymyn a fwy i lawenydd o ddiolchgarwch na phryder neu angen. Gras, a gras yn unig all wneud y math hwn o fyw mewn heddwch ar gyfer pob un ohonom. Beth am i ti, heddiw, ymgyrraedd am y hwnnw?


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Paul Tripp's Daily Thanksgiving Devotional

Mae cyfnod y diolchgarwch yn gyfle i gpfio'r holl bethau da mae Duw wedi'u rhoi i ni, yn ei ras. Ond weithiau, mae prysurdeb y tymor yn ein cadw rhag cymryd amser i ddiolch i Dduw am ei holl roddion. Bydd y defosiynau ll...

More

Hoffem ddiolch i Workmatters am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.crossway.org/books/new-morning-mercies-hcj/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd