Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Ceisio Calon Duw Bob Dydd - DoethinebSampl

Seeking Daily The Heart Of God - Wisdom

DYDD 1 O 5



Rhai sy’n Chwilio am Ddoethineb



Mae doethineb yn nodwedd i’w edmygu. Mae pobl yn cael eu denu at ddoethineb. Mae’n ddeniadol ac apelgar. Mae doethineb yn cynrychioli gair gan Dduw, felly mae ei werth yn enfawr. Doethineb yw un rheswm dros fynychu’r eglwys, gwrando ar ddysgeidiaeth o’r Beibl, a chreu perthynas â mentoriaid profiadol. Rhaid chwilio’n ddyfal am ddoethineb a gofyn amdano. Dydy e ddim yn dod yn naturiol; mae’n rhodd gan Dduw. Mae doethineb yn amhrisiadwy a hynod o werthfawr. Mae’n rhodd sy’n dy amddiffyn oddi wrth benderfyniadau allai dy syniadau allai aflonyddu ti weddill dy oes ac mae’n rhoi hyder iti i gario mlaen neu stopio. Mae doethineb yn arf mae Duw’n ei chario ar ran ei filwyr. Mae doethineb yn chwalu dryswch ac yn ei le yn rhoi eglurder. Mae'n distyllu penderfyniadau yn ddilyniant o lwyddiannau bach. Mae'n rhybuddio am beryglon sydd ar ddod.



Fodd bynnag, does gan y doeth ddim imiwnedd i bechod. Mae dal angen atebolrwydd ar ddyn neu ddynes ddoeth - falle’n fwy felly. Yn wir, mae’r doeth yn agored i falchder (Jeremeia 9:23). Os oes gan rywun galon falch maen nhw'n meddwl eu bod yn bwysicach na rheolau. Gall fod mor gynnil ar y dechrau, ond buan iawn mae’r argyhoeddiad mewnol yn pydru fel sylfaen sy’n llawn pryf. Os na chaiff balchder ei gadw dan reolaeth, bydd yn troi doethineb yn orhyder Trist iawn yw cyflwr un fu unwaith yn arweinydd doeth a adawodd i falchder wanhau ei ofn o Dduw. Doethineb yw rhodd Duw i gyflawni bwriadau ei deyrnas. O’i defnyddio i’w fwriadau ei hun mae e’n hunanol.



Felly, chwilia am y gwir ddoeth, y mae Duw yn brif flaenoriaeth iddo. Mae doethineb sydd wedi newid i rywbeth arall yn dioddef o gamymddwyn ysbrydol, ond mae straen pur o ddoethineb yn rhoi bywyd ysbrydol. Doethineb, ynghyd â gostyngeiddrwydd ac ufudd-dod i Dduw sy'n ein paratoi ni i orffen yn dda. Mae doethineb dilys yn briodol ym mhob sefyllfa. Chwilia amdano yn y Beibl, llyfrau, pobl, amgylchiadau, ffilm, profiadau bywyd, a chreadigaeth. Unwaith y byddi di'n dod o hyd iddo, paid â'i gymryd yn ganiataol. Diolcha i Dduw am ganlyniadau doeth. Defnyddia i'w ogoniant a'i amcanion e. Gad i ddoethineb dy ddarostwng yn hytrach na rhoi ymdeimlad o ragoriaeth i ti. Dŷn ni i gyd yn chwilio am ddoethineb Duw. Byddwn yn chwilio amdano hyd nes i ni gyrraedd y nefoedd.



Mae doethineb yn weithgar, yn fyw, a bob amser angen trwythiad newydd gan Dduw. Defnyddia weddi fel pont i ddoethineb Duw. Gofynna iddo'n aml am ei safbwynt a'i galon ar y mater. Caniatâ i ddoethineb dy ddwyn yn nes at dy Dad Nefol mewn addoliad a dibyniaeth ohono. Cysegra dy fwriadau doeth yn gyson iddo e. Cadwa dy Dad Nefol fel dy hidlydd ar gyfer gwneud penderfyniadau doeth.



Bydd yn ddosbarthwr doethineb hael i eraill, gwna amser i bobl ddod i adnabod dy galon, a deall y gwersi bywyd y mae Duw wedi'u meithrin yn dy ffydd. Mae gan bob un ohonom y doethineb y gallwn ei gynnig i eraill. Treulia amser yn gwrando ar helyntion rhywun arall. Mae angen rhoi sylw i'r materion sydd ar “flaen eu meddwl”. Bydd ar gael i wrando'n amyneddgar gyda dealltwriaeth, ac yna mewn gostyngeiddrwydd, cyniga opsiynau i'w hystyried. Mae doethineb yn gwrtais. Mae'n rhoi atebion i bawb pan ofynnir iddo mewn ysbryd gras, fel un sy’n chwilio ar y cyd am ddoethineb.



Chwilia am ddoethineb a rho ddoethineb - wedi ei gymell gan ymostyngiad gostyngedig i Dduw.



I weld mwy o ddefosiynau o Seeking Daily the Heart of God, dos i: https://www.wisdomhunters.com/


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Seeking Daily The Heart Of God - Wisdom

Mae Ceisio Calon Duw Bob Dydd yn gynllun darllen 5 diwrnod gyda’r bwriad o’n hannog, herio, a’n helpu ar hyd llwybr bywyd bob dydd. Fel y dywedodd Boyd Bailey, "Ceisiwch Ef hyd yn oed pan nad wyt ti'n teimlo fel gwneud, ...

More

Hoffem ddiolch i Boyd Bailey ar y cyd gyda Wisdom Hunters am ddarparu’r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.wisdomhunters.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd