Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Dylanwad Ffrindiau Sampl

Peer Pressure

DYDD 1 O 7

Os oes gennych nifer o ffrindiau sy'n ddylanwad drwg arnoch - dechreuwch amau eu cyfeillgarwch. Haws dweud na gwneud? Mae dylanwad ffrindiau yn llesol ond mae'r gwrthwyneb i hynny hefyd yn wir. Dydy hi ddim yn rhwydd sefyll dros egwyddor os ydy hyn yn golygu colli ffrindiau. Mae unrhyw ffrind sy'n gofyn i chi gyfaddawdu'r hyn ydych chi'n credu ynddo - ddim yn ffrind go iawn. Dydy hi ddim yn rhwydd dewis llwybr yn enwedig os nad ydy e'n llwybr poblogaidd. Mae dewis y llwybr cywir er nad yw'n boblogaidd ac er gwaethaf dylanwad ffrindiau yn bwysig. Rhaid i chi osod eich safonau a'ch ffiniau cyn i chi wynebu unrhyw ddewis oherwydd mae'n anodd dewis yn ddoeth pan fo amgylchiadau'n pwyso arnoch. Eisiau gwybod mwy am yr hyn sydd gan Dduw i'w ddweud am ddylanwad ffrindiau? Cewch wybod mwy yn ystod yr wythnos!
Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Peer Pressure

Mae ffrindiau yn gallu bod yn ddylanwad llesol neu'n ddylanwad niweidiol. Mae Duw wedi ein galw i'w ddilyn - felly mae gwybod am, a deall Ei safonau yn hollbwysig. Wrth fyfyrio yn y cynllun darllen saith diwrnod - cewch ...

More

We would like to thank Life.Church for providing this plan. For more information, please visit: www.life.church

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd