Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Aros yma amdanat ti, Taith Adfent o ObaithSampl

Waiting Here for You, An Advent Journey of Hope

DYDD 1 O 7

YR UNION AMSER

MYFYRDOD

Roedd Gwaredwr wedi'i addo i bobl Dduw am ganrifoedd. Roedden nhw'n gweddïo a hiraethu am achubiaeth. Ac yna, ar y diwrnod cywir, yn y lle cywir, a'r amser cywir, cafodd Iesu ei eni. Er mai anaml y daw Duw ar ein hamser penodedig, mae e bob amser yn dod ar yr amser iawn.


Mae pob un ohonom yn disgwyl am rywbeth, gan bendroni'n aml os yw Duw wedi anghofio amdanom ni. Yn dy ddisgwyl, gad i enedigaeth Crist dy annog. Er nad yw Duw wedi dod drwodd (hyd y gelli weld), dydy e ddim yn golygu ei fod wedi cefnu arnat ti. Iddo e mae diwrnod fel mil o flynyddoedd a mil o flynyddoedd fel diwrnod. Ar yr union funud hon mae e'n gweithio er ei ogoniant ac er dy les di. Er bod amgylchiadau'n dweud fel arall, mae Duw yn mynd i ddod drwodd, ar amser, gan gyflawni ei gynlluniau ar dy gyfer di. Paid rhoi'r gorau iddi cyn bod yr amser yn iawn.

Cymer obaith yn y cafn bwydo anifeiliaid, gan wybod fod y Duw ddaeth lawr o'r nefoedd yn dy garu gan gyrraedd ar yr amser iawn i ti.


MYFYRIO

Clyw y Sŵn Balch


Clyw y Sŵn Balch! Mae'r Gwaredwr yn dod,
Y Gwaredwr addawyd ers amser maith,

Gad i bob calon baratoi gorsedd,
A phob llais gân.


I achub carcharorion ddaeth,
Oedd wedi'u dal gan ddrwg,

Chwalwyd giatiau pres o'i flaen,

Ildiodd y llythrennau heyrn.


Fe ddaw i glymu'r galon dor,
I wneud yr enaid blin yn iach,
A chyda holl drysorau'i ras
I gyfoethogi'r crand
a chyfoethogi'r tirion tlawd.


Ein Hosannas balch, Tywysog Heddwch,
Dy groeso fydd yn cyhoeddi,
A phorthau'r nefoedd yn bythol weiddi
Gyda'th enw annwyl.


(Cyfieithiad rhydd o "Hark the Glad Sound") Philip Doddridge, 1702–1751


GWEDDI

O Dad, tyrd i'm cyfarfod yn fy nisgwyl, ble dw i'n hiraethu am yr hyn na fedra i ei weld yn glir. Tawela fy nghalon a gwna imi sylweddoli dy fod yn agos. Dw i'n credu bod dy gynlluniau yn rhai da. Dw i'n ei weld yng ngenedigaeth dy Fab.


Ond weithiau dw i'n stryglo i weld tu hwnt i'r niwl sydd o'm cwmpas. Adnewydda fy hyder wrth imi godi fy llygaid atat ti. Dw i am iti gael dy ogoneddu yn fy mywyd yn ystod y cyfnod disgwylgar hwn. Amen.


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Waiting Here for You, An Advent Journey of Hope

Yn syml, Cyfnod yw'r Adfent o ddisgwyl disgwylgar a pharatoi. Ymuna â'r gweinidog ac awdur, Louie Giglio ar daith yr Adfent i ddarganfod nad yw disgwyl yn wastraff amser pan wyt ti'n disgwyl ar yr Arglwydd. Dalia afael y...

More

Hoffem ddiolch i Louie Giglio, awdur Waiting Here for You (Passion Publishing), am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.passionresources.com

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd