Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Gobaith yn y TywyllwchSampl

Hope In The Dark

DYDD 5 O 12

Drwy Ffydd



Cymer y cam cyntaf mewn ffydd. Does dim raid i ti weld y grisiau cyfan i gymryd y ris gyntaf.



-Martin Luther King Jr.



Pan fyddwn yn ystyried ffydd, fe fydd yna ddisgwyl. Dw i wrth fy modd fel mae C.S.Lewis yn esbonio hyn: Dw i'n siŵr nad yw duw'n gwneud i neb ddisgwyl, oni bai ei fod yn beth da iddo ddisgwyl." Fe allwn drystio Duw i wneud beth sydd orau ar ein cyfer ar yr amser cywir.



Hyd yn oed pan fyddwn yn cael ein gorfodi i ddisgwyl, mae Duw'n atgyfnerthu ei addewidion i ni ac yn ein hatgoffa o'i bresenoldeb. Falle y gwelwn hyn drwy ei Air, drwy sibrydiad, drwy berson, neu'n syml drwy gredu drwy ffydd ei fod e gyda ni.



Os wyt ti eisiau cryfhau dy ffydd, dw i ddim yn gwybod am le gwell na llyfr yr Hebreaid. Yno, ym mhennod 11, cawn Neuadd Ffydd o Enwogion, rhestr o gymaint o bobl wnaeth stryglo, disgwyl, byw drwy ffydd, a gweld addewid Duw'n cael ei gyflawni. Yno, gwelwn pobl yn profi pethau anghredadwy - treialon sy'n ymddangos yn amhosibl - ac yn y pen draw, yn profi lefel newydd o agosatrwydd gyda Duw, hyd yn oed wrth fod yn dystion i'w bŵer.



Drwy ffydd, fe wnaeth Noa ufuddhau i Dduw ac adeiladu arch, gan achub ei deulu.



Drwy ffydd, cafodd Abraham a Sara y mab roedd Duw wedi'i addo iddyn nhw, er eu bod wedi pasio oedran cael plant. Drwy ffydd, gorchfygodd Joseff frad, gaethwasiaeth, cam gyhuddiadau, a chael ei garcharu, i arbed cenedl Israel. Drwy ffydd, gadawodd bobl Israel yr Aifft a cherdded drwy'r Môr Coch wrth iddo wahanu ar bob ochr iddyn nhw. Drwy ffydd, gorymdeithiodd yr Israeliaid o gwmpas waliau Jericho, a dymchwelodd y waliau.

ô

Doedd rhain ddim yn bobl berffaith - ymhell bell o hynny a dweud y gwir. Roedd gan bob un ohonyn nhw eu hymdrechion a'u hamheuon, eu camgymeriadau a'u hanffyddlondeb, eu diffygion a'u gwendidau, ond fe wnaethon nhw ddyfalbarhau'n eu ffydd a disgwyl ar yr Arglwydd, dro ar ôl tro.



Drwy ffydd, fe ddoi di drwy hyn.



Meddylia am y peth: os byddai popeth yn gwneud synnwyr i ti, fydde gen ti ddim angen ffydd. Gallet ti fyw drwy dy ddealltwriaeth di dy hun. Drwy dy resymeg, ac nid drwy ffydd. Ond pan nad wyt ti'n deall rywbeth, mae hynny'n rhoi cyfle i ti ddyfnhau dy ffydd.



Dwedodd Oswald Chambers, "Hyder bwriadol yw ffydd, yng nghymeriad Duw, ble nad wyt wastad yn deall ei ffyrdd ar y pryd."



Gweddïa: O Dduw, a wnei di dyfu fy ffydd tu hwnt i'm hangen fel fy mod yn gallu deall popeth?


Diwrnod 4Diwrnod 6

Am y Cynllun hwn

Hope In The Dark

Mae'r cynllun Beibl hwn ar gyfer unrhyw un sydd mewn poen ac ddim yn deall pam. Os wyt ti wedi colli rywbeth, rywun, neu mae dy ffydd wedi'i brofi i'r eithaf, yna, mae'r Cynllun Beibl hwn o lyfr gweinidog Life Church, Cr...

More

Hoffem ddiolch i'r Parch Craig Groeschel a Life.Church.tv am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://craiggroeschel.com/

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd