Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Cael gwared ar OfnSampl

Get Rid Of Fear

DYDD 2 O 3

Beth wyt ti’n ei wneud pan mae ofn yn dechrau dal gafael ar dy feddyliau ac yn gwrthod gollwng gafael?


Mae’r Ysgrythur yn dweud mai’r ffisig gorau ar gyfer ofn a phryder yw gweddi. I weld beth mae’n ei olygu drwy weddi a’r hyn all ei wneud ar dy gyfer edrycha ar Philipiaid, pennod 4, adnodau 6 I 7. Mae adnod 6 yn dweud, Peidiwch gadael i ddim byd eich poeni chi. Gweddïwch, a gofyn i Dduw am bopeth sydd arnoch ei angen, a byddwch yn ddiolchgar bob amser.”


Pan mae ofn yn dal gafael ynot ti, dechreua drwy weithio yn erbyn yr ofn hwnnw gyda gwirionedd Duw. Mae Duw’n dweud bod rhaid i ti symud dy ffocws oherwydd bydd beth bynnag sy’n rheoli dy feddwl, yn dy reoli di. Dydy Duw ddim eisiau i dy ffocws fod ar feddyliau ofnus, na chael dy reoli ganddyn nhw. Yn hytrach, mae Duw eisiau i ti ffocysu arno fe, ac i’w Air a’i Ysbryd dy reoli di. Dyna pam mae gweddi mor bwysig. Mae’r fformiwla yma’n syml. Paid ofni dim, ond gweddïa am bopeth


Mae Philipiaid, pennod 4, adnod 6 yn defnyddio’r gair cyffredin am weddi, yn ogystal â’r gair “ymbil,”
sy’n cyfeirio at ofyn am ateb i angen arbennig. Yn ei hanfod, mae hynny’n golygu dy fod i weddïo am bopeth, pa un ai os yw dy gais yn gyffredinol neu’n benodol. Os oes gen ti ofn sy’n swnian ond rwyt yn methu nodi’n union beth yw e, cymra fe at yr Arglwydd mewn gweddi - mae e’n gwybod beth yw e. Neu os oes gen ti ofn penodol rwyt yn gallu ei weld yn glir, dos â hwnnw ato hefyd. Gofynna iddo waredu dy ofnau a’u ffeirio gyda’i wirionedd, ac yna diolcha iddo mewn ffydd am wneud hynny drosot.


Arglwydd Grasol, “Beth ydy gwerth aderyn y to? Dych chi'n gallu prynu dau ohonyn nhw am newid mân!” Rwyt ti’n gwybod am bopeth sy’n digwydd iddyn nhw. Rwyt wedi cyfrif gwallt fy mhen i hyd yn oed. Helpa fi i fod yn wrol o wybod mor dda y mae e’n fy adnabod a’m caru. Atgoffa fi heddiw nad oes rhaid imi ofni, oherwydd, yn y pen draw rwyt ti’n rheoli popeth ac rwyt ti wedi addo fyth i’m gadael, na throi dy gefn arnaf i. Diolch iti am dy addewidion, sy’n dod â heddwch imi, yn enw Crist. Amen.

`
blockquote>
Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Get Rid Of Fear

Gelli oroesi teimladau o ofn. Mae Dr. Tony Evans yn dy arwain ar lwybr i ryddid yn y cynllun craff hwn. Darganfydda fywyd o hapusrwydd a heddwch rwyt wedi'i ddymuno wrth i ti weithredu ar yr egwyddorion sy'n cael eu goso...

More

Hoffem ddiolch i Harvest House Publishers am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://go.tonyevans.org/addiction

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd