Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Paid IldioSampl

Don't Give Up

DYDD 1 O 7

Dydd 1—Yr unig Un sy’n Gyson



Weithiau, falle dy fod yn teimlo fel llong unig yn cael ei thaflu o gwmpas mewn storm, ar donnau’r môr, yn ôl ac ymlaen heb gyfeiriad, gan edrych am unrhyw arwydd o obaith. Heb gwmpawd bydd cyrraedd tir sych fwy neu lai’n amhosib.


Gellir dweud yr un peth am fywyd. Gall crwydro heb gwmpawd a gobeithio y byddi di’n cyflawni dy bwrpas ges ti ei ordeinio ar ei gyfer gan Dduw ar y ddaear hon, fod yn heriol iawn. A dyna pam mae angen cysondeb arnat ti - canolbwynt cyson nad yw byth yn newid. Dim ond un sydd, a'i enw yw Iesu.



Duw’n unig all roi nerth a dyfalbarhad i ti ar gyfer bywyd llewyrchus. Pan rwyt ti’n flinedig, bydd ei freichiau cadarn yn dy gofleidio ac anadlu bywyd newydd i mewn i dy esgyrn. Pan rwyt wedi dy lethu ormod fel dy fod yn methu cymryd cam ymhellach, mae ei ffynnon o fywyd yn dy lenwi o’r newydd eto. Pan rwyt ti ar goll ac ansicr, mae ei ddoethineb a mewnwelediad yn agor llygaid lluddedig a goleuo’r daith o’th flaen.



Bydd yn sicr nad oes dim arall sy’n gyson, dim ffynhonnell arall o nerth all dy gynnal, neu olau all dy arwain yn ffyddlon. Tro dy gefn ar atebion y byd i’th flinder a chofleidia’r cysondeb go iawn. Fe yw’r unig ffynhonnell gynaliadwy a’th angor ym mhob sefyllfa.



Os wyt ti’n teimlo heddiw fel llong yn cael ei thaflu o gwmpas ar y tonnau, cyn i ti droi at unrhyw beth arall, tro at Iesu. Boed i'r Arglwydd gyfeirio dy galon a'i nerth gario trwy dy ddyffryn tywyllaf pan fyddi di am roi'r ffidil yn y to.



Dros y cynllun darllen 7 diwrnod hwn dŷn ni’n mynd i blymio’n gyntaf i’r Beibl a darganfod beth sydd gan Dduw i’w ddweud am ddyfalbarhad a dygnwch. Dyma dy sbardun a hwb o anogaeth i ddal ati pan fydd pethau'n mynd yn anodd. Felly, tyrd i ymuno â mi i ddarganfod beth mae’r Beibl yn ei ddweud am ddygnwch a phwy arall yn y Beibl sydd wedi dyfalbarhau yn wyneb adfyd.



A chofia fy ffrind, cadwa dy olwg ar Iesu!


Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Don't Give Up

Wyt ti wedi blino neu dy lethu gymaint mewn bywyd fel dy fod eisiau ildio a dweud, “digon yw digon?” Mae’r Beibl yn llawn anogaeth i ddyfalbarhau a dal ati! Bydd y cynllun 7 diwrnod hwn yn dy adnewyddu ar gyfer y daith s...

More

Hoffem ddiolch i Brittany Rust am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: http://www.brittanyrust.com

Cynlluniau Tebyg

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd