Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Gwybodaeth Cynllun

Defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: Mosaic'Sampl

Devotions for Lent from Holy Bible: Mosaic

DYDD 1 O 46

Beth yw'r Grawys? I nifer o Gristnogion mae'r Grawys wedi bod yn rhan bwysig o'u bywyd ysbrydol erioed, ond i eraill mae'n anghyfarwydd. Mae'r Grawys yn gyfnod sy'n arwain i fyny i'r Pasg, cyfnod pan mae Cristnogion yn draddodiadol baratoi eu calonnau ar gyfer Y Pasg gyda myfyrdod, edifarhad a gweddi. Mae'r Grawys yn dechrau gyda dydd Mercher Lludw ac yn parhau am bedwar deg diwrnod, heblaw am Suliau, ac yn dod i ben gyda dydd Gwener y Groglith a dydd Sadwrn sanctaidd. Gan fod Suliau yn ddathliad wythnosol o atgyfodiad Iesu, nid yw'r chwe Sul yn cael eu cyfri fel rhan o'r cyfnod pedwar deg diwrnod, sy'n ffocysu ar chwilio'r hunan, holi'r hunan ac edifarhad. Mae llawer o Gristnogion yn dewis nodi'r Grawys drwy ymprydio, ond nid yw''r ffocws ar amddifadu eu hunain o rywbeth ond yn hytrach ar gysegru eu hunain i Dduw a'i fwriadau yn y byd.





Mae'r Grawys yn gyfnod pwysig ym mlwyddyn yr eglwys. Mae blwyddyn yr eglwys yn ffordd rhagorol i'n helpu i ffocysu ein sylw ar Dduw gyda'r modd dŷn ni'n trefnu ein hamser. Yn hytrach na dilyn strwythur cyfarwydd y calendr dyddiol sy'n ddibynnol ar rhythmau natur, mae calendr yr eglwys wedi'i drefnu o gwmpas Duw a'i weithgaredd yn y byd. Mae calendr yr eglwys yn dilyn chwe cyfnod o wahanol hyd: Yr Adfent, Nadolig, Ystywyll, Y Grawys, Y Pasg a'r Pentecost. Mae i bob un o'r cyfnodau ei ffocws ei hun. Mae'r Adfent yn ffocysu ar ragweld dyfodiad Duw i'r byd, ill dau yn yr ymgnawdoliad ac ail-ddyfodiad Crist. Mae'r Nadolig yn ffocysu ar eni'r Iesu. \Mae'r Ystywyll yn ffocysu ar oleuni presenoldeb Duw yn y byd. Mae'r Grawys yn ffocysu ar pechod dynol ac ateb grasol Duw. Mae'r Pentecost yn ffocysu ar waith parhaus yr Ysbryd Glân yn y byd. Gall rhythm blynyddol y cyfnodau hyn gael effaith grymus ar dyfiant ysbrydol personol a chymunedol.





Os wyt yn mwynhau'r defosiwn hwn ar gyfer y Grawys, dos a chael golwg ar 'Holy Bible:Mosaic', Beibl printiedig sy'n cynnwys popeth sydd wedi'i gynnwys yn y defosiwn hwn ac yn ychwanegol i hyn gwaith celf lliw llawn a darlleniadau ar gyfer pob wythnos o flwyddyn yr eglwys.
Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

Devotions for Lent from Holy Bible: Mosaic

Mae'r defosiynau dyddiol hyn dros dymor 46 diwrnod y Grawys, sydd wedi'u haddasu o 'Holy Bible: Mosaic' yn cyfuno dyfyniadau, darlleniadau ac Ysgrythur i'th helpu i ganolbwyntio dy feddwl ar Grist. Pa un ai os wyt yn gwy...

More

Hoffem ddiolch i Tyndale House Publishers am eu haelioni drwy ddarparu defosiynau ar gyfer y Grawys o 'Holy Bible: M osaic', ewch i: www.tyndale.com/p/holy-bible-mosaic-nlt/9781414322056

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd