Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 9

9
Doethineb a Ffolineb
1Y mae doethineb wedi adeiladu ei thŷ,
ac yn naddu ei saith golofn;
2y mae wedi paratoi ei chig a chymysgu ei gwin
a hulio ei bwrdd.
3Anfonodd allan ei llancesau,
ac ar uchelfannau'r ddinas y mae'n galw,
4“Dewch yma, bob un sy'n wirion.”
Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr,
5“Dewch, bwytewch gyda mi,
ac yfwch y gwin a gymysgais.
6Gadewch eich gwiriondeb, ichwi gael byw;
rhodiwch yn ffordd deall.”
7Dirmyg a gaiff yr un sy'n disgyblu gwatwarwr,
a'i feio a gaiff yr un sy'n ceryddu'r drygionus.
8Paid â cheryddu gwatwarwr, rhag iddo dy gasáu;
cerydda'r doeth, ac fe'th gâr di.
9Rho gyngor i'r doeth, ac fe â'n ddoethach;
dysga'r cyfiawn, ac fe gynydda mewn dysg.
10Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau doethineb,
ac adnabod y Sanctaidd yw deall.
11Oherwydd trwof fi y cynydda dy ddyddiau,
ac yr ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd.
12Os wyt yn ddoeth, byddi ar dy elw;
ond os wyt yn gwawdio, ti dy hun fydd yn dioddef.
13Y mae gwraig ffôl yn benchwiban,
yn ddiddeall, heb wybod dim.
14Y mae'n eistedd wrth ddrws ei thŷ,
ar fainc yn uchelfannau'r ddinas,
15yn galw ar y rhai sy'n mynd heibio
ac yn dilyn eu gorchwylion eu hunain:
16“Dewch yma, bob un sy'n wirion.”
Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr,
17“Y mae dŵr lladrad yn felys,
a bara wedi ei ddwyn yn flasus.”
18Ond ni wyddant hwy mai meirwon yw'r rhai sydd yno,
ac mai yn nyfnder Sheol y mae ei gwahoddedigion.

Dewis Presennol:

Diarhebion 9: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd