Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 4

4
Doniau Doethineb
1Gwrandewch, blant, ar gyfarwyddyd tad,
ac ystyriwch i chwi ddysgu deall.
2Oherwydd yr wyf yn rhoi i chwi hyfforddiant da;
peidiwch â gwrthod fy nysgeidiaeth.
3Bûm innau hefyd yn fab i'm tad,
yn annwyl, ac yn unig blentyn fy mam.
4Dysgodd yntau fi, a dweud wrthyf,
“Gosod dy feddwl ar fy ngeiriau;
cadw fy ngorchmynion iti gael byw.
5Paid ag anghofio na chilio oddi wrth fy ngeiriau.
Cais ddoethineb, cais ddeall;
6paid â'i gadael, a bydd hithau'n dy gadw;
câr hi, a bydd yn d'amddiffyn.
7Doethineb yw'r pennaf peth; cais ddoethineb;
â'r cyfan sydd gennyt, cais ddeall.
8Meddwl yn uchel ohoni, ac fe'th ddyrchefir ganddi;
fe'th anrhydedda, os cofleidi hi.
9Gesyd dorch brydferth ar dy ben,
a rhoi coron anrhydedd iti.”
10Fy mab, gwrando, a dal ar fy ngeiriau,
ac fe ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd.
11Hyfforddais di yn ffordd doethineb;
dysgais iti gerdded llwybrau union.
12Pan gerddi, ni rwystrir dy gam,
a phan redi, ni fyddi'n baglu.
13Glŷn wrth addysg, a hynny'n ddiollwng;
dal d'afael ynddi, oherwydd hi yw dy fywyd.
14Paid â dilyn llwybr y drygionus,
na cherdded ffordd pobl ddrwg;
15gochel hi, paid â'i throedio,
tro oddi wrthi a dos yn dy flaen.
16Oherwydd ni allant hwy gysgu os na fyddant wedi gwneud drwg;
collant gwsg os na fyddant wedi baglu rhywun.
17Y maent yn bwyta bara a gafwyd trwy dwyll,
ac yn yfed gwin gormes.
18Y mae llwybr y cyfiawn fel golau'r wawr,
sy'n cynyddu yn ei lewyrch hyd ganol dydd.
19Ond y mae ffordd y drygionus fel tywyllwch dudew;
ni wyddant beth sy'n eu baglu.
20Fy mab, rho sylw i'm geiriau,
a gwrando ar fy ymadrodd.
21Paid â'u gollwng o'th olwg;
cadw hwy yn dy feddwl;
22oherwydd y maent yn fywyd i'r un sy'n eu cael,
ac yn iechyd i'w holl gorff.
23Yn fwy na dim, edrych ar ôl dy feddwl,
oherwydd oddi yno y tardd bywyd.
24Gofala osgoi geiriau twyllodrus,
a chadw draw oddi wrth siarad dichellgar.
25Cadw dy lygaid yn unionsyth,
ac edrych yn syth o'th flaen.
26Rho sylw i lwybr dy droed,
i'th holl ffyrdd fod yn ddiogel.
27Paid â throi i'r dde nac i'r chwith,
a chadw dy droed rhag y drwg.

Dewis Presennol:

Diarhebion 4: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd