Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 51:1-19

Y Salmau 51:1-19 BCND

Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, yn ôl dy ffyddlondeb; yn ôl dy fawr dosturi dilea fy nhroseddau; golch fi'n lân o'm drygioni, a glanha fi o'm pechod. Oherwydd gwn am fy nhroseddau, ac y mae fy mhechod yn wastad gyda mi. Yn dy erbyn di, ti yn unig, y pechais a gwneud yr hyn a ystyri'n ddrwg, fel dy fod yn gyfiawn yn dy ddedfryd, ac yn gywir yn dy farn. Wele, mewn drygioni y'm ganwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam. Wele, yr wyt yn dymuno gwirionedd oddi mewn; felly dysg imi ddoethineb yn y galon. Pura fi ag isop fel y byddaf lân; golch fi fel y byddaf wynnach nag eira. Pâr imi glywed gorfoledd a llawenydd, fel y bo i'r esgyrn a ddrylliaist lawenhau. Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl euogrwydd. Crea galon lân ynof, O Dduw, rho ysbryd newydd cadarn ynof. Paid â'm bwrw ymaith oddi wrthyt, na chymryd dy ysbryd sanctaidd oddi arnaf. Dyro imi eto orfoledd dy iachawdwriaeth, a chynysgaedda fi ag ysbryd ufudd. Dysgaf dy ffyrdd i droseddwyr, fel y dychwelo'r pechaduriaid atat. Gwared fi rhag gwaed, O Dduw, Duw fy iachawdwriaeth, ac fe gân fy nhafod am dy gyfiawnder. Arglwydd, agor fy ngwefusau, a bydd fy ngenau yn mynegi dy foliant. Oherwydd nid wyt yn ymhyfrydu mewn aberth; pe dygwn boethoffrymau, ni fyddit fodlon. Aberthau Duw yw ysbryd drylliedig; calon ddrylliedig a churiedig ni ddirmygi, O Dduw. Gwna ddaioni i Seion yn dy ras; adeilada furiau Jerwsalem. Yna fe ymhyfrydi mewn aberthau cywir— poethoffrwm ac aberth llosg— yna fe aberthir bustych ar dy allor.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Y Salmau 51:1-19

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd