Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Luc 4:14-30

Luc 4:14-30 BCND

Dychwelodd Iesu yn nerth yr Ysbryd i Galilea. Aeth y sôn amdano ar hyd a lled y gymdogaeth. Yr oedd yn dysgu yn eu synagogau ac yn cael clod gan bawb. Daeth i Nasareth, lle yr oedd wedi ei fagu. Yn ôl ei arfer aeth i'r synagog ar y dydd Saboth, a chododd i ddarllen. Rhoddwyd iddo lyfr y proffwyd Eseia, ac agorodd y sgrôl a chael y man lle'r oedd yn ysgrifenedig: “Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf, oherwydd iddo f'eneinio i bregethu'r newydd da i dlodion. Y mae wedi f'anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg i ddeillion, i beri i'r gorthrymedig gerdded yn rhydd, i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd.” Wedi cau'r sgrôl a'i rhoi'n ôl i'r swyddog, fe eisteddodd; ac yr oedd llygaid pawb yn y synagog yn syllu arno. A'i eiriau cyntaf wrthynt oedd: “Heddiw yn eich clyw chwi y mae'r Ysgrythur hon wedi ei chyflawni.” Yr oedd pawb yn ei gymeradwyo ac yn rhyfeddu at y geiriau grasusol oedd yn dod o'i enau ef, gan ddweud, “Onid mab Joseff yw hwn?” Ac meddai wrthynt, “Diau yr adroddwch wrthyf y ddihareb, ‘Feddyg, iachâ dy hun’, a dweud, ‘Yr holl bethau y clywsom iddynt ddigwydd yng Nghapernaum, gwna hwy yma hefyd ym mro dy febyd.’ ” Ond meddai, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych nad oes dim croeso i'r un proffwyd ym mro ei febyd. Ar fy ngwir rwy'n dweud wrthych, yr oedd llawer o wragedd gweddw yn Israel yn nyddiau Elias pan gaewyd y ffurfafen am dair blynedd a chwe mis, ac y bu newyn mawr ar yr holl wlad. Ond nid at un ohonynt hwy yr anfonwyd Elias, ond yn hytrach at wraig weddw yn Sarepta yng ngwlad Sidon. Ac yr oedd llawer o wahangleifion yn Israel yn amser y proffwyd Eliseus, ac ni lanhawyd yr un ohonynt hwy, ond yn hytrach Naaman y Syriad.” Wrth glywed hyn llanwyd pawb yn y synagog â dicter; codasant, a bwriasant ef allan o'r dref a mynd ag ef hyd at ael y bryn yr oedd eu tref wedi ei hadeiladu arno, i'w luchio o'r clogwyn. Ond aeth ef drwy eu canol hwy, ac ymaith ar ei daith.

Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Luc 4:14-30

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd