Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Habacuc 1

1
Cwyn Habacuc
1Yr oracl a dderbyniodd Habacuc y proffwyd mewn gweledigaeth.
2Am ba hyd, ARGLWYDD, y gwaeddaf am gymorth,
a thithau heb wrando,
ac y llefaf arnat, “Trais!”
a thithau heb waredu?
3Pam y peri imi edrych ar ddrygioni,
a gwneud imi weld trallod?
Anrhaith a thrais sydd o'm blaen,
cynnen a therfysg yn codi.
4Am hynny, â'r gyfraith yn ddirym,
ac nid yw cyfiawnder byth yn llwyddo;
yn wir y mae'r drygionus yn amgylchu'r cyfiawn,
a daw cyfiawnder allan yn wyrgam.
Ateb yr ARGLWYDD
5“Edrychwch ymysg y cenhedloedd, a sylwch;
rhyfeddwch, a byddwch wedi'ch syfrdanu;
oherwydd yn eich dyddiau chwi yr wyf yn gwneud gwaith
na choeliech, pe dywedid wrthych.
6Oherwydd wele, yr wyf yn codi'r Caldeaid,
y genedl greulon a gwyllt,
sy'n ymdaith ledled y ddaear
i feddiannu cartrefi nad ydynt yn eiddo iddynt.
7Arswydus ac ofnadwy ydynt,
yn dilyn eu rheolau a'u hawdurdod eu hunain.
8Y mae eu meirch yn gyflymach na'r llewpard,
yn ddycnach na bleiddiaid yr hwyr,
ac yn ysu am fynd.
Daw ei farchogion o bell,
yn ehedeg fel fwltur yn brysio at ysglyfaeth.
9Dônt i gyd i dreisio,
a bydd dychryn o'u blaen;
casglant gaethion rif y tywod;
10gwawdiant frenhinoedd
a dirmygant arweinwyr;
dirmygant bob amddiffynfa,
a gosod gwarchae i'w meddiannu.
11Yna rhuthrant heibio fel gwynt—
dynion euog, a wnaeth dduw o'u nerth.”
Habacuc yn Cwyno Eto
12Onid wyt ti erioed, O ARGLWYDD,
fy Nuw sanctaidd na fyddi farw?
O ARGLWYDD, ti a'u penododd i farn;
O Graig, ti a'u dewisodd i ddwyn cerydd.
13Ti, sydd â'th lygaid yn rhy bur i edrych ar ddrwg,
ac na elli oddef camwri,
pam y goddefi bobl dwyllodrus,
a bod yn ddistaw pan fydd y drygionus
yn traflyncu un mwy cyfiawn nag ef ei hun?
14Pam y gwnei bobl fel pysgod y môr,
fel ymlusgiaid heb neb i'w rheoli?
15Coda hwy i fyny â bach, bob un ohonynt,
a'u dal mewn rhwydau,
a'u casglu â llusgrwydau;
yna mae'n llawenhau ac yn gorfoleddu,
16yn cyflwyno aberth i'w rhwydau
ac yn arogldarthu i'r llusgrwydau,
am mai trwyddynt hwy y caiff fyw'n fras
a bwyta'n foethus.
17A ydyw felly i wagio'r rhwydau'n ddiddiwedd,
a lladd cenhedloedd yn ddidostur?

Dewis Presennol:

Habacuc 1: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd