Marc 2

2
Gwella'r dyn we wedi'i barlisu
1-12Pan ddâth Iesu nôl i Gapernaum cwpwl o ddwarnode'n 'weddarach, fe âth ir hanes ar led i fod e wedi dwâd getre. Dâth shwt gwmint o ddinion 'na, fel bo ddim lle ar ôl i neb arall in i tŷ, ddim hyd 'n‐ôd tu fas drws. A we Iesu'n prigethu'r Gair iddon nhwy pan ddâth dinion â rhiwun we wedi'i barlisu ato fe. We pedwar in cario'r dyn, on achos wen‐nhw ddim in galler mynd ag e trw'r crowd at Iesu, agoron‐nhwy do'r tŷ lle we Iesu'n sefyll. Wedi iddon nhwy dorri twll in i to, gollingon‐nhwy'r matras we'r dyn we ddim in dda in gorwe arno fe lawr trw'r twll. Pan welo Iesu 'u ffydd nhwy gwedodd‐e wrth i dyn we ddim in dda, “In fachan i, ma di bechode wedi cal u madde.” Nawr we rhei o'r dinion we'n disgu'r Gifreth in ishte fan'ny, a wên‐nhwy'n meddwl wrthon nhwy'u hunen, “Pam ma'r dyn 'ma in sharad fel hyn? Mae‐e'n cablu. Sneb on Duw in galler madde pechode, wes e?” Diallodd Iesu streit beth we'n u meddilie nhwy a wedodd‐e wrthon nhwy, “Pam ÿch‐chi'n meddwl pethe fel 'na? Be sy rwydda neud: gweud wrth i dyn tost 'ma, ‘Ma di bechode di wedi câl u madde’, neu gweud, ‘Saf ar di drâd, cija'n di fatras a cerdda’? On fe ddangosa‐i i chi bo da Crwt i Dyn ir hawl i fadde pechode ar i ddeiar,” — wedyn fe wedodd‐e wrth i dyn we wedi'i barlisu — “Gronda arna i: saf ar di drâd, a cija'n di fatras a cer getre.” Cododd i dyn, cidjo'n i fatras a mynd ar i ffordd tra wên‐nhwy i gyd yn watsho. We pob un wedi'i sinnu a wên‐nhwy'n moli Duw a gweud, “Welon‐ni ddim byd fel hyn ariôd o'r blân.”
Lefi'n dilyn Iesu
13-17Âth Iesu mas wedyn weth i lan i llyn. Dâth i bobol i gyd ato fe, a wedd‐e'n u disgu nhwy. Wrth‐'o fynd heibo gwelodd‐e Lefi, crwt Alffeus, in ishte in ir offis lle wedd‐e'n casglu trethi, a wedo Iesu wrtho fe, “Dere ar in ôl i.” Gadodd Lefi i offis a dilyn Iesu.
A we Iesu in ishte wrth i ford in bita in tŷ Lefi, a dâth lot o'r dinion we'n casglu trethi a pechaduried ato fe a'i ddisgiblion; achos we lot o ddinion fel 'na am fod in i gwmni e. Dâth rhei o'r dinion we'n disgu'r Gifreth a'r Ffariseied ar i ôl e. A pan welon‐nhwy i fod e'n bita 'da pechaduried a rheiny we'n casglu trethi fe ofinon‐nhwy wrth i ddisgiblion, “Pam mae‐e'n bita da'r dinion sy'n casglu trethi a'r pechaduried 'ma?” Cliwo Iesu a gwedodd‐e wrthon nhwy, “Sdim ishe doctor ar ddinion sy'n iawn, on ma ishe un ar ddinion tost; achos sana i wedi dwâd i alw dinion da, ond dinion drwg.”
Pryd ma mynd heb fwyd?
18-22We disgiblion Ioan, a disgiblion i Ffariseied 'fyd, in arfer mynd heb fwyd am sbel fel part o'u cred. A dâth rhiwrei at Iesu a gofyn iddo fe, “Pam ma disgiblion Ioan a disgiblion i Ffariseied in peido bita pan bo di ddisgiblion di ddim in neud ny?” Gwedo Iesu wrthon nhwy, “Ŷch‐chi'n meddwl gall ffrinde'r dyn sy'n mynd i briodi beido bita cyd â bo fe 'da nhwy, ŷch‐chi? Na 'llan wir! Cyd â bo'r dyn sy'n mynd i briodi 'da nhwy allan‐nhwy ddim meddwl am beido bita. On fe ddeith amser pan fydd i dyn sy'n mynd i briodi in câl i gwmrid bant wrthon nhwy, a'r dwarnod 'ny biddan‐nhwy'n mynd heb fwyd. Sneb in gwinio patshyn o ddenfydd newy ar hen bilyn; os newn‐nhwy, bydd i patshyn in tinnu wrth ir hen bilyn a'r twll in mynd in wâth. Sneb chwaith in allwish gwin newy miwn i hen gwrên; os neith‐e, fe dorrith i gwin i cwrên a fe gollwch‐chi'r gwin a'r cwrên 'fyd. Na, man‐nhwy'n rhoi gwin newy mewn cwrên newy.”
Pigo llafur ar ddy' Sabath
23-28Dy' Sabath we Iesu'n cered trw'r perci llafur, a fel we'i ddisgiblion e'n cered wen‐nhw'n pigo I'r llafur. Gwedo'r i Ffariseied wrtho fe, “Dricha arnyn nhwy, pam man‐nhwy neud rwbeth sy torri'r Gifreth ar ddy Sabath?” Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Senoch‐chi ariôd wedi darllen am beth nâth Dafydd a'r rhei we 'dag e pan wên‐nhwy'n llwgu o ishe bwyd? Âth‐e miwn i Dŷ Duw, pan we Abiathar in Ffeirad Mowr, a bita'r bara we wedi câl i roi o flân Duw, a fe roiodd‐e beth i'r rhei we dag e 'fyd (a ŷch‐chi gwbod in iawn taw dim ond 'da'r ffeiradon ma hawl i fita'r bara).” Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Cas dy' Sabath i neud ar gownt dyn, a ddim dyn ar gownt dy' Sabath. A ma Crwt i Dyn in Fishtir hyd 'n‐ôd ar ddy' Sabath.”

S'ha seleccionat:

Marc 2: DAFIS

Subratllat

Comparteix

Copia

None

Vols que els teus subratllats es desin a tots els teus dispositius? Registra't o inicia sessió

YouVersion utilitza galetes per personalitzar la teva experiència. En utilitzar el nostre lloc web, acceptes el nostre ús de galetes tal com es descriu a la nostra Política de privadesa