Mae modiwlau hyblyg yn arbed amser ac ymdrech i ti. Cyfuna elfennau i greu Digwyddiadau newydd o'r dechrau cyntaf. Neu ailddefnyddia dy Ddigwyddiadau presennol a'u haddasu fel bo'r angen. Hyd yn oed copïa Ddigwyddiadau sy'n bodoli eisoes a'u haddasu i weddu i fathau gwahanol o gynulleidfa. Ar hyd y ffordd, mae Rhagolwg yn gadael i ti a dy gynorthwywyr weld cynnwys dy Ddigwyddiad.
Amlinellau, prif bwyntiau, cwestiynau trafod... Rhanna unrhyw gynnwys testunol cyffredinol fydd yn helpu dy fynychwyr i ddilyn dy neges fel mae'n digwydd.
Dangosa ddarnau yn union lle mae dy neges yn cyfeirio atynt, yn gysylltiedig ag unrhyw un o'r Apiau Beibl % (version count)+ fersiynau, yn 1600+ ieithoedd - dim angen copïo3_16_0_321 | na gludo.2400.
Dolenna Gynlluniau Beibl a Defosiynau sy'n ymwneud â dy bwyntiau dysgu, gan helpu'r rhai hynny sy'n dy ddilyn i gysylltu â Gair Duw drwy'r wythnos.
Gosoda dy gynulleidfa un cam i ffwrdd oddi wrth cyfrannu ar-lein, gwirfoddoli, neu dudalennau cartref eglwys. Gosoda ddolen i unrhyw wefan allanol yn union y tu mewn i'th Ddigwyddiad.
Gwna dy Ddigwyddiad yn fyw drwy ddefnyddio unrhyw fath o graffeg, gelfyddyd, lluniau gydag adnodau a. y. b. Bydd Mynychwyr yn gallu rhannu lluniau dy Ddigwyddiad yn eu cyfrwng cymdeithasol a'u gwneud yn feirol.
Dosbartha'r holl wybodaeth diweddaraf a phwysig heb drafferth: newyddion eglwys, digwyddiadau calendr, rhaglenni, dosbarthiadau, cyfleoedd i wirfoddolwyr a theithiau, a mwy.
Gad i bobl wybod ble a phryd mae dy Ddigwyddiad yn digwydd - hyd yn oed ar gyfer Digwyddiadau sy'n digwydd ar adegau lluosog a lleoliadau amrywiol.
Arbed amser ac ymdrech. Crea Ddigwyddiadau newydd yn gyflym trwy gopïo rhai sy'n bodoli eisoes a'u haddasu gyda'r gwybodaeth ddiweddaraf.
Arbed arian ar argraffu a defnyddio llai o bapur... hyd yn oed wrth i ti gyrraedd pobl ar lwyfan gyda mwy na 200 miliwn o osodiadau.
"Roeddem yn gyffrous i weithredu YouVersion yn ein gweinidogaeth, yn enwedig yr adran Digwyddiadau, lle rydym yn gosod nodiadau a sylwadau addysgu bob wythnos. Mae ein pobl yn gwerthfawrogi cael y nodiadau ar flaenau eu bysedd, i'w rhannu a'u harbed. Rydyn ni wedi ailgyfeirio miloedd o ddoleri i anghenion gweinidogaeth eraill trwy gael gwared ar raglenni printiedig!"
Pastor Bill White
Christ Journey Church
"Mae YouVersion Events yn adnodd gwerthfawr i'n teulu eglwys. Mae'r gallu i'n pobl ddilyn gyda nodiadau pregeth ac Ysgrythurau yn ystod ein negeseuon yn creu cysylltiad pwerus ac yn gadael argraff."
Pastor Herbert Cooper
People’s Church
“Rydym yn defnyddio Digwyddiadau ar gyfer ein holl sesiynau, gan ganiatáu i'n mynychwyr gael y nodiadau a'r Ysgrythurau gan y siaradwyr o'u blaenau. Mae digwyddiadau wedi arbed i ni argraffu miloedd o dudalennau! Mae sefydlu Digwyddiad yn hynod o hawdd, ac mae bob amser yn cael ei gyhoeddi ar yr union amser y mae ei angen arnom.”
Cindy Beall
Leading and Loving It
Director of Equip
Mae chwyldro mewn ymgysylltiad Beiblaidd yn digwydd o fewn ein hoes. Wedi'i osod ar fwy na 220 miliwn o ddyfeisiau unigryw hyd yn hyn (ac yn cyfrif), mae Ap y Beibl yn helpu pobl ym mhob gwlad ar y ddaear i gysylltu mwy â Gair Duw. Ac yn awr, trwy Ddigwyddiadau, rydym yn hapus i gynnig cyrhaeddiad y platfform hwnnw i ti.
Trefna a rhanna dy Ddigwyddiad cyntaf yn yr Ap Beibl mewn llai na deg munud. Y cyfan sydd ei angen arnat yw Mac neu PC a chyfrif YouVersion am ddim.